Newydd i infoengine?

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Gorffenaf 13, 2022 @ 14:00

Cost: Am Ddim

Lleoliad: Ar-lein - Zoom

Cofrestrwch Yma

Newydd i infoengine? – Gweithdy infoengine Gorllewin Cymru

Mae’r sesiwn hon ar gyfer unrhyw un sydd am ddefnyddio InfoEngine (cyfeirlyfr ar-lein o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol ledled Cymru).

 

Os ydych am gofrestru eich sefydliad, bydd y sesiwn hon yn eich tywys drwy’r broses ac yn cynnig awgrymiadau defnyddiol i wneud i’ch cofrestriad sefyll allan.

Canlyniadau: Canlyniad y sesiwn fydd y bydd y cyfranogwyr yn:

    • Deall y ffyrdd i chwilio ar infoengine
    • Gallu cofrestru eich sefydliad a gwasanaethau
    • Deall sut i olygu eich gwybodaeth
    • Gallu ychwanegu gwasanaethau a sefydliadau lluosog
    • Dysgu rai awgrymiadau defnyddiol ar gyfer gwneud i’ch cofrestriad sefyll allan

 

Ar gyfer pwy mae hwn: Unrhyw un sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli gyda mudiad gwirfoddol/cymunedol neu elusen a hoffai gynyddu eu presenoldeb digidol a hysbysebu’r hyn y maent yn ei wneud ar infoengine.

Trefnwyd y sesiwn hon gan CAVS ond mae’n agored i unrhyw sefydliad trydydd sector yng Nghymru fel rhan o Cefnogi Trydydd Sector Cymru.