Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr Sir Gâr– CVON

Hydref 05, 2021 @ 10:30am

Cost: Am ddim

Lleoliad: Ar lein- Zoom

Mae Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddolwyr Sir Gâr yn grŵp o bobl sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr yn y sector gwirfoddol a statudol ledled Sir Gâr.

Pwrpas CVON yw helpu darparu a datblygu gwasanaeth gwirfoddoli effeithiol yn Sir Gâr. Mae yna gyfle i fudiadau drafod problemau, rhannu profiadau a syniadau, dysgu am waith ei gilydd a chael gwybodaeth ar faterion gwirfoddoli cyfredol.

Mae croeso i unrhyw sefydliad sy’n cynnwys gwirfoddolwyr, neu sy’n ystyried sefydlu prosiect gwirfoddoli, ddod draw i gyfarfodydd rhwydwaith CVON. Cysylltwch â ni a byddwn yn eich ychwanegu at ein rhestr bostio.

Agenda 05.10.21

Cysylltu ar ffôn 01267 245555 neu e-bost volunteering@cavs.org.uk