Os ydych yn ystyried dod yn ymdddiriedolydd neu newydd ymgymryd â’r rôl, y cwrs hwn yw’r canllaw perffaith ar eich cyfer. Rhoddwn gychwyn ar bethau trwy edrych ar yr hanfodion: pwy all fod yn ymddiriedolydd, eu dyletswyddau cyfreithiol, codau ymddygiad, a rolau mygedol. Byddwch yn edrych yn fanwl ar y prosesau gwneud penderfyniadau y mae’n rhaid i ymddiriedolwyr fynd drwyddynt, ac yn darganfod y cyfrinachau i gynnal cyfarfodydd bwrdd a Chyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol effeithiol.
Byddwch hefyd yn dysgu sut i fynd i’r afael â buddiannau croes a thrin digwyddiadau difrifol gyda hyder ac integriti. Ac, oherwydd bod bwrdd cryf bob tro’n cynllunio ar gyfer y dyfodol, byddwn yn archwilio rôl hollbwysig cynllunio olyniaeth i sicrhau gweithgarwch di-dor a chroesawu safbwyntiau ffres ar y bwrdd.
Datblygwch eich sgiliau llywodraethu a chyfoethogwch eich dysgu trwy wasanaethau a gynigir gan ein Swyddog Llywodraethiant profiadol.