Gwahoddir holl gyflogwyr a rheolwyr cyflogaeth Hywel Dda ac ardaloedd cyfagos i ymuno â’n digwyddiad cyflogadwyedd ddydd Iau 23 Mehefin i glywed gan arbenigwyr ynghylch pam y dylech gyflogi cyn-aelodau o’r lluoedd arfog ac aelodau o gymuned y lluoedd arfog, a’r gwerth y gallant ei gynnig.
Yn unol â Chyfamod y Lluoedd Arfog, rydym ni fel sefydliad yn cael ein hannog i ddangos ymrwymiad i gydnabod a deall y dylai’r rhai sy’n gwasanaethu a’r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch yn y cymunedau, yr economi a’r gymdeithas y maent yn eu gwasanaethu.
Felly, mae’r digwyddiad cyflogadwyedd hwn wedi’i anelu at bob cyflogwr a rheolwr cyflogaeth yn ardal Hywel Dda ac ardaloedd cyfagos, i godi ymwybyddiaeth o’r gwerth a’r sgiliau y gall ein ymadawyr gwasanaeth ac aelodau o gymuned y lluoedd arfog eu cynnig i bawb, yn sefydliadau cyhoeddus, preifat, a thrydydd sector.
Mae’r digwyddiad hwn hefyd wedi’i anelu at helpu sefydliadau i edrych ar ffyrdd y gallant wella mynediad i gyflogaeth ar gyfer y rhai sy’n gadael y gwasanaeth cymorth ac aelodau o gymuned y lluoedd arfog.
Cofrestrwch uchod i dderbyn cyfarwyddiadau ymuno.