Ymwybyddiaeth o Ddiogelu

Medi 18, 2024 @ 10:00

Cost: Am ddim

Lleoliad: Swyddfa CAVS, Caerfyrddin

Cofrestrwch Yma

Yn ein cymdeithas, rydym oll yn chwarae rôl hollbwysig yn amddiffyn a diogelu llesiant plant ac oedolion rhag camdriniaeth ac esgeulustod. Mae Diogelu yng Nghymru yn cwmpasu camau hollbwysig er mwyn sicrhau iechyd, hawliau, a lles cyffredinol unigolion. Mae’n creu amgylchedd lle y gall pawb, a phlant, pobl ifanc, ac oedolion bregus yn enwedig, ffynnu heb ofni niwed neu gamdriniaeth.

Mae’r cwrs hwn yn gam cyntaf yn y broses o ddeall a chyfrannu’n weithredol at safonau diogelu a bennwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n cynnwys ymwybyddiaeth sylfaenol o egwyddorion diogelu.

Os ydych yn gweithio’n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc, neu oedolion bregus, neu hyd yn oed os ydych yn gwirfoddoli eich amser, y cwrs hwn yw eich cwmpawd ar gyfer dod o hyd i’ch ffordd trwy ddrysfa diogelu.

Gwnewch yn fawr o’ch rôl yn diogelu, oherwydd gyda’n gilydd, gallwn greu cymdeithas fwy diogel a meithringar i bawb.