Archwiliwch rym llunio ceisiadau ariannol effeithiol ar gyfer y trydydd sector gyda’r cwrs hwn. Mae’r cwrs, a gafodd ei deilwra ar gyfer arweinyddion a swyddogion cyllid trydydd sector, yn rhoi ichi’r sgiliau hanfodol i sicrhau cyllid hollbwysig ar gyfer eich mudiad.
Trwy weithdai ymarferol a sesiynau dan arweiniad arbenigwyr, byddwch yn meistroli’r grefft o lunio cynigion gafaelgar sydd wedi’u teilwra i anghenion unigryw cyllidwyr. Dysgwch sut i baratoi ceisiadau cofiadwy sy’n gwneud argraff ar ddarpar roddwyr, esboniwch genhadaeth ac argraff eich mudiad gydag argyhoeddiad, a rhowch lawer gwell gobaith iddo sicrhau cymorth ariannol.
Os nad ydych wedi gwneud ceisiadau grant o’r blaen neu’n ceisio mireinio eich arddull, mae’r cwrs hwn yn darparu offerynnau a strategaethau ymarferol all wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ymunwch â ni a rhowch y gallu i’ch mudiad nid er mwyn elw ffynnu a gwneud argraff barhaol yn eich cymuned.
Cyfoethogwch eich dysgu trwy wasanaethau a gynigir gan ein Swyddog Llywodraethiant profiadol.