Gwirfoddoli: ar gyfer Gwirfoddolwyr

Sut all CAVS helpu

Os hoffech wirfoddoli:

  • Gallwn siarad â chi am fanteision gwirfoddoli
  • Gallwn eich helpu dod o hyd i rôl ystyrlon yn wirfoddolydd
  • Gallwn siarad â chi am wirfoddoli anffurfiol yn eich cymuned
  • Gallwn eich cyfeirio at Cysylltu Sir Gâr
  • Gallwch gofrestru ar wefan Gwirfoddoli Cymru, ac edrych drwy’r Cyfleoedd Gwirfoddoli sydd gan fudiadau yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.

Beth yw gwirfoddoli?

Mae gwirfoddoli yn golygu cyflawni unrhyw weithgarwch sy’n cynnwys treulio amser, yn ddi-dâl, yn gwneud rhywbeth sy’n ceisio gwneud lles i’r amgylchedd neu rywun (unigolion neu grwpiau) ac eithrio perthnasau agos.

Mae’n rhaid i wirfoddoli fod yn ddewis a wneir yn rhydd gan bob unigolyn.

Volunteering

Pam mae pobl yn gwirfoddoli?

Mae llawer o resymau pam mae pobl yn dewis gwirfoddoli. Dyma rai o’r rhesymau y mae pobl yn sôn wrthym amdanynt:

  • Rhoi rhywbeth yn ôl
  • Cynnig help llaw
  • Mae’n rhywbeth i’w wneud
  • Cwrdd â phobl newydd
  • Gwneud ffrindiau
  • Dysgu rhai sgiliau newydd
  • Rheswm i fynd allan o’r tŷ
  • Bydd yn edrych yn dda ar fy CV
  • Rhoi ymdeimlad o bwrpas imi
  • Rwyf eisiau cael profiad ymarferol
  • Rwyf wrth fy modd yn chwarae pêl droed
  • Er mwyn teimlo’n dda amdanaf fy hunan
  • Fy helpu i gael swydd
  • Gwella fy Saesneg / Cymraeg
  • Rwyf yn teimlo’n ddiflas
  • I gael hwyl
  • Dywedodd rhywun wrthyf i wneud
  • Rwyf yn teimlo fel cymryd rhan mewn rhywbeth newydd
  • Er mwyn gwneud rhywbeth gwerth ei wneud

Mae’r rhan fwyaf o wirfoddolwyr yn gwneud hynny am nifer o resymau gwahanol. Os oeddech yn meddwl am wneud rhywfaint o wirfoddoli, beth fyddai eich rhesymau dros wneud?

Volunteering
Volunteering

Gwahanol fathau o wirfoddoli

Gwirfoddoli ffurfiol a Gwirfoddoli cymunedol neu anffurfiol:

Gwirfoddoli ffurfiol

Gyda llaw, nid oes rhaid i Wirfoddoli ffurfiol fod yn ‘ffurfiol’!  Yr hyn mae’n ei olygu yw y byddwch yn gwirfoddoli i elusen neu fudiad sy’n ymgysylltu â gwirfoddolwyr i’w cefnogi yn eu gwaith.

Gall hyn olygu cynnig help llaw mewn mudiad lleol, fel Neuadd Bentref neu i elusen genedlaethol fwy fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Fel arfer bydd gennych rôl wirfoddol benodol yr ydych yn ei chyflawni, a byddwch yn aml yn gwirfoddoli eich amser yn rheolaidd. 

Mae mwy o fanylion ar ein tudalen Gwirfoddoli Ffurfiol. 

Gwirfoddoli cymunedol neu anffurfiol

Gall Gwirfoddoli cymunedol olygu cynnig help llaw anffurfiol i’ch cymdogion. Gall fod yn fyrfyfyr, gall fod i gefnogi digwyddiadau rheolaidd neu anghenion untro a bydd yn gwneud gwahaniaeth i lle rydych yn byw. Gall rhannu eich amser, eich sgiliau a’ch profiad, eich brwdfrydedd a’ch teimladau helpu lleddfu unigedd ac unigrwydd, cefnogi gwytnwch a llesiant eich cymuned a dod â phob un ohonoch yn nes at eich gilydd. Yn aml iawn efallai y bydd llawer ohonoch yn adnabod eich gilydd, sy’n gallu gwneud pethau’n rhwyddach.

Mae mwy o fanylion ar ein tudalen Gwirfoddoli Cymunedol.

Volunteering