Beth yw gwirfoddoli cymunedol a beth allai olygu ichi?
Gall gwirfoddoli cymunedol olygu cynnig help llaw anffurfiol i’ch cymdogion.
Gall fod yn fyrfyfyr, gall fod i gefnogi digwyddiadau rheolaidd neu anghenion untro a bydd yn gwneud gwahaniaeth i lle rydych yn byw. Gall rhannu eich amser, eich sgiliau a’ch profiad, eich brwdfrydedd a’ch teimladau helpu lleddfu unigedd ac unigrwydd, cefnogi gwytnwch a llesiant eich cymuned a dod â phob un ohonoch yn nes at eich gilydd. Yn aml iawn efallai y bydd llawer ohonoch yn adnabod eich gilydd, sy’n gallu gwneud pethau’n rhwyddach.
Casglu bwydydd a meddyginiaethau, gollwng papur newyddion, torri gwair, cerdded ci – pob un ohonynt yn ffyrdd anffurfiol o helpu’r sawl sydd angen cymorth.
Efallai y cawsoch brofiad o hyn yn barod a’ch bod yn cyfrannu at ‘gymorth cymunedol’.
Os nad ydych, dyma rai ffyrdd posib o ddarganfod sut:
- Eich cyngor tref a chymuned
- Eich grŵp Facebook lleol
- Nextdoor
- Cysylltu Sir Gâr
Sut all CAVS helpu?
Mae cefnogi cymunedau i ffynnu a thyfu yn ganolog i ymrwymiadau cymunedol CAVS.
Gall ein tîm cymunedol gynnig arweiniad, eich cyfeirio at ein porth dysgu, eich cyfeirio at grwpiau a rhoi gwybod ichi am y datblygiadau gwirfoddoli diweddaraf.
Gellir cefnogi grwpiau cymunedol gyda rheoli eu gwirfoddolwyr, llywodraethiant ac anghenion cyllido.
Gweithiwn yn agos â’r Ymgyrch Cysylltu â Charedigrwydd ranbarthol, sy’n tynnu sylw at fanteision iechyd caredigrwydd, a gall amlygu’r gweithredoedd anhygoel a gyflawnir gan grwpiau cymunedol.