Cysylltu â Charedigrwydd

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email
Connect to kindness logo

Mae’n dechrau gyda chi

Gall gweithredoedd caredig wneud gwahaniaeth mawr – dyna neges ymgyrch newydd a lansiwyd yn Sir Benfro, Sir Ceredigion a Sir Gâr ym mis Gorffennaf 2020

Bwriad Cysylltu â Charedigrwydd ydy creu dealltwriaeth am les a dylanwad caredigrwydd arnom ni ein hunain, ac eraill yn ein cymuned.

“Mae astudiaethau gwyddonol wedi dangos fod gweithredoedd caredig yn gwneud gwahaniaeth mawr i les a fod caredigrwydd yn dda i chi,” dywed Rebecca Evans, Uwch Sywddog Iechyd Cyhoeddus o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Pan mae pobl yn gweld buddion eich caredigrwydd, mi fyddant yn cael eu hysbrydoli i gymryd rhan, sy’n creu adwaith cadwyn positif,”ychwanegodd Wyndham Williams, Swyddog Datblygu Sir Benfro – Cysylltwyr Cymunedol A Mwy o Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro.

Fel rhan o’r ymgyrch, mae’r partneriaid rhanbarthol yn cefnogi rhwydweithiau cymunedol i greu amgylchedd lle gall gweithredoedd caredigrwydd ffynnu a digwydd yn haws.

Mae’n digwydd eisoes ledled Gorllewin Cymru“, ychwanegodd Jamie Horton, Swyddog Datblygu Gwirfoddoli Cymunedol o Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin..

Mi fydd y gwaith yn seiliedig ar ddull o weithio rhwng cenhedlaethau, sy’n helpu cysylltiadau newydd i ddatblygu’n naturiol rhwng pawb ag unrhyw un yn ein cymunedau.

“Mae ganddon ni gyd rhywbeth i’w gynnig, rhywbeth all wneud gwahaniaeth i bobl o’n cwmpas. Gall un weithred penodol fod yn ddibwys i ni, ond gall wneud byd o wahaniaeth i berson sy’n teimlo’n unig.

Mae Cysylltu â Charedigrwydd wedi deillio o raglen datblygwyd o fewn y Cronfa Trawsnewid Gorllewin Cymru Iachach.

Partneriaid:

Cynghorau Sir Gâr, Sir Ceredigion a Sir Benfro, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Sir Gâr, Sir Ceredigion a Sir Benfro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru.

Badge_2

Pump Neges Allweddol

  1. Mae caredigrwydd i bawb – Mae caredigrwydd yn gynhwysol, nid yw’n gosod rhwystrau ac nid yw’n gwahaniaethu – mae ar gyfer pawb!
  2. Mae caredigrwydd yn dda i ti – Mae ymchwil feddygol wedi profi fod bod yn garedig a derbyn caredigrwydd yn cael effaith gorfforol gadarnhaol arnom
  3. Mae caredigrwydd yn ein cysylltu– Mae’n dod â ni at ein gilydd ac yn ein helpu i rannu
  4. Mae caredigrwydd yn ein hamddiffyn– Profwyd fod bod yn garedig a derbyn caredigrwydd yn ein helpu i fyw bywydau hirach ac hapusach.
  5. Mae caredigrwydd yn ysbrydoli – Pan fydd eraill yn garedig rydym yn fwy tebygol o fod yn garedig ein hunain

Ac me’n dechrau gyda UN person, CHI.

Badge_3

Caredigrwydd yn y Gweithle

Mae pecyn cymorth a chanllaw newydd wedi cael eu lansio i gefnogi cyflogwyr, staff, grwpiau a sefydliadau lleol i sefydlu caredigrwydd yn y gweithle. 

‘Mae caredigrwydd yn y gwaith yn caniatau i weithlu proffesiynol fod yn fwy bodlon gyda’u swyddi ac mae’n medru creu ton sy’n codi ysbryd drwy’r cwmni cyfan. ‘

Badge_1

Sesiwn Ymwybyddiaeth Ar-lein

O Garedigrwydd yn y Gymuned i Garedigrwydd yn y Gweithle, byddwn yn dangos buddion caredigrwydd a’r modd y mae’n gallu chwarae rhan fawr yn eich bywyd.   

Edrychwch ar ein e-fodiwl ar Borth Dysgu ar-lein CAVS