Gwirfoddoli ‘Ffurfiol’

Sut alla i gael gwybod mwy am Wirfoddoli ffurfiol?

Gwirfoddoli Cymru

Os ydych yn credu y gallech fod yn awyddus i wneud rhywfaint o wirfoddoli, neu os hoffech weld beth sydd ar gael gallwch:

  • Edrych ar wefan gwirfoddoli-cymru. Os allwch gael gafael ar gyfrifiadur, mae hon yn ffordd dda o ddechrau. Gallwch wneud chwiliad Cod Post a gweld beth sy’n digwydd gerllaw.
  • Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, neu os ydych yn credu y gallai fod yn ddefnyddiol siarad â rhywun cyn  ichi fwrw iddi, gallwch drefnu siarad ag un o’n Swyddogion Gwirfoddoli.

Cyn gynted ag y mae cyfyngiadau Covid yn cael eu codi, byddwch yn gallu ffonio a gwneud apwyntiad i gwrdd ag un ohonom yn swyddfa CAVS yng Nghaerfyrddin i gael sgwrs.

Yn y cyfamser gallwch ein ffonio neu ddanfon e-bost a threfnu cael gwybod mwy felly. Pe bai hynny’n ddefnyddiol efallai y gallem drefnu cyfarfod ar-lein er mwyn cwrdd â chi.

Fel arfer mae’r Ganolfan Gwirfoddoli yn ein swyddfeydd yn Heol y Frenhines yng Nghaerfyrddin, ond rydym hefyd yn teithio o gwmpas ac yn mynd i leoedd fel Canolfannau Gwaith, Neuaddau Cymunedol, Ysgolion a Cholegau, Meddygfeydd ac ati. Gallwch gyfarfod ag un o’n tîm unrhyw ddiwrnod bron, ond mae bob tro’n well trefnu cyfarfod ymlaen llaw. Yn ystod pandemig Covid, gwyddom fod cyfyngiadau ar symud o gwmpas wedi golygu fod yn ein holl gyfarfodydd yn digwydd yn rhithiol.

Pan fyddwch yn cyfarfod un o’r Swyddogion Gwirfoddoli, efallai y byddwch yn  trafod pethau fel eich sefyllfa bresennol, eich profiadau yn y gorffennol a’ch sgiliau, eich cynlluniau i’r dyfodol ac yn amlwg pa fath o wirfoddoli rydych chi’n credu yr hoffech ei wneud. Efallai y bydd gennym rai syniadau i gael pethau i symud yn syth, neu efallai y defnyddiwn wefan Gwirfoddoli Cymru (gweler uchod) i chwilio am Gyfleoedd Gwirfoddoli sy’n addas ichi.