Sut i gofrestru ar Gwirfoddoli Cymru (gwirfoddolwyr)

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Dyma drosolwg o gofrestru ar Gwirfoddoli Cymru:

  • Ewch i dudalen groeso Gwirfoddoli Cymru Sir Gaerfyrddin.
  • Gwasgwch ar [Rhowch Gynnig ar Wirfoddoli]
  • Yn y cam nesaf rhowch eich cyfeiriad e-bost a chreu cyfrinair
  • Mae’r ychydig gamau nesaf yn ymwneud â’ch manylion personol a rhai darnau eraill o wybodaeth amdanoch chi’ch hun
  • Mae cam olaf y broses gofrestru yn ymwneud â diogelu data yn bennaf. Gofynnir ichi a ydych yn cydsynio i dderbyn e-byst – sef e-byst oddi wrthym ni yn CAVS ac e-byst awtomatig o’r wefan. Nid yw’r negeseuon hyn yn “spam”, yr hyn ydynt yw gwybodaeth am Gyfleoedd Gwirfoddoli newydd a gwybodaeth berthnasol arall am wirfoddoli. Pe baech yn dewis peidio eu derbyn ni fyddwch yn derbyn unrhyw negeseuon a ddanfonwn at y gymuned wirfoddoli yn gyffredinol (er y byddwch wrth gwrs yn gallu cyfathrebu’n uniongyrchol â ni).
  • Ar y dudalen olaf hon gofynnir hefyd ichi gydsynio i’ch manylion gael eu rhannu gyda “Darparwyr” Cyfleoedd yr ydych yn ymuno â nhw – heb y cydsyniad hwn ni fyddai’r mudiadau’n gallu ymateb i’ch cais i ymuno â’u tîm gwirfoddoli – cofiwch ddarllen y datganiad cysylltiedig yn ofalus.
  • Wedi ichi wasgu ar Cofrestru, fe gewch fynediad i’r wefan a chyfle i fynd trwy’r nifer fawr o Gyfleoedd Gwirfoddoli cyffrous.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr uchod, cysylltwch â ni ar volunteering@cavs.org.uk.