Prosiect Gwirfoddoli Gwledig CAVS Tach 2017-Hydref 2019
Canolbwyntiodd ein prosiect ar weithio o fewn 6 ardal wledig y sir am gyfnod o ychydig llai na 2 flynedd. Gan hyrwyddo buddion cymdeithasol, iechyd a lles gwirfoddoli, anogodd tîm y prosiect aelodau’r gymuned, a grwpiau sy’n defnyddio gwirfoddolwyr, i ganolbwyntio ar gyfleoedd gwirfoddoli lleol.
Cafwyd canlyniadau cadarnhaol o ddarparu nifer o weithdai hyfforddi, cysylltu â rhanddeiliaid a mwy o gyhoeddusrwydd gwirfoddoli gydag adborth yn tynnu sylw at werth allgymorth a threulio amser yn gwrando ar anghenion unigolion.
Derbyniodd y prosiect hwn arian trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae adroddiad terfynol y prosiect ar gael yma.
Beth mae gwirfoddoli yn meddwl i chi? Wythnos Gwirfoddolwyr 2019