Sut i gofrestru ar Gwirfoddoli Cymru (sefydliadau)

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Dyma drosolwg byr o’r broses gofrestru:

  • Ewch i dudalen groeso Gwirfoddoli Cymru Sir Gaerfyrddin.
  • Gwasgwch ar [Angen Gwirfoddolwyr]
  • Llanwch y ffurflen gyda manylion eich mudiad
  • Sylwer – y cyfeiriad e-bost a roddwch yma yw’r un a ddefnyddiwch i fewngofnodi ar y wefan bob tro. Felly, efallai y byddai’n dda ystyried pwy fydd yn cadw eich cyfrif yn gyfredol a chreu eich Cyfleoedd a rheoli eich gwirfoddolwyr. Yn yr un modd, bydd angen ichi greu cyfrinair – bydd hwn yn cael ei ddefnyddio bob tro y mewn gofnodwch i’ch cyfrif.
  • Gofynnir ichi a ydych am ddewis derbyn e-byst – e-byst yw’r rhain yr ydym yn eu danfon at bob “Darparydd” cofrestredig, ynghyd â negeseuon achlysurol a gynhyrchir yn awtomatig gan y wefan ei hun. Nid e-byst “spam” yw’r rhain, ac ni fydd eich manylion yn cael eu rhoi i unrhyw fudiadau eraill.

 

Cofiwch, os ydych angen unrhyw gymorth yn cwblhau’r broses gofrestru, cysylltwch â ni yn volunteering@cavs.org.uk