Dathlu Gwirfoddoli

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Mae pobl yn gwirfoddoli am nifer o resymau gwahanol, a beth bynnag allai’r ffactorau cynhenid ac anghynhenid hynny fod, mae un peth yn ddigyfnewid – maent yn anhygoel am roi eu hamser ac nid ydynt yn haeddu dim llai na bonllef fawr o gymeradwyaeth. Mae CAVS yn annog pob grŵp, sy’n cael eu cefnogi gan wirfoddolwyr, i gymryd amser trwy gydol y flwyddyn i fwrw goleuni ar eu cyfraniadau a dathlu eu hymroddiad, ymrwymiad a charedigrwydd rhyfeddol.

Mae gennym wahanol ymgyrchoedd a dyddiau cenedlaethol, rydym yn cefnogi dathlu grwpiau penodol a bob blwyddyn rydym yn ymrwymo i ddigwyddiadau i gefnogi Wythnos Gwirfoddolwyr ym mis Mehefin.