Gallem ddarganfod am ymweld â rhywun yn yr ysbyty sy'n teimlo'n unig
Fy enw i yw Thomas Kimpton, rwy’n 24 oed, rwy’n wirfoddolwr yn Ysbyty’r Tywysog Philip. Rwy’n gwirfoddoli ar MEU a Ward 1 ac yn helpu’r porthorion o amgylch yr ysbyty gyda diddordebau a thasgau gwahanol. Fy hoff ddiddordebau y tu allan i’r ysbyty yw mynd i’r gampfa, canu, dawnsio, mynd â fy nghŵn am wâc a dweud helo wrth fy ffrindiau a chymdogion.
Fy enw i yw Heledd. Rwy’n dwlu ar helpu pobl ac rwy’n joio cwrdd â phobl newydd. Rwy’n defnyddio hyn yn fy nghymuned drwy fynd â chleifion i’r lle iawn yn yr ysbyty a helpu unrhyw un sydd ar goll. Rwy’n cefnogi’r adran cleifion allanol yn Ysbyty Bronglais ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda ac rwy’n mwynhau fy rôl yn fawr iawn. Rwy’n dymuno Nadolig dedwydd, heddychlon a hapus i’r holl staff yn Ysbyty Llwynhelyg.
Fy enw i yw Robert Glydas ond mae pobl yn fy ngalw i’n Bob. Rwy’n gwirfoddoli yn Ysbyty Llwynhelyg yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rwy’n gwirfoddoli yn y gymuned gyda chwmni Ceir Cefn Gwlad yn mynd â phobl i siopa, apwyntiadau doctor a deintydd a hefyd mynd â phobl i wahanol ysbytai yn Ne Cymru. Rwy’n codi pwysau, rwy’n rhan o glwb triathalon, rwyf hefyd yn rhan o’r eglwys a gobeithio y gall y rheini helpu pobl yn eu bywydau. Maen nhw’n dweud fy mod i’n siarad llawer felly gobeithio fy mod i’n rhoi gair o anogaeth i rai pobl yn yr ysbyty ac yn y ceir hefyd ac maen nhw’n ddiolchgar iawn pan fyddwn yn rhoi gair o fendith iddyn nhw yn eu bywydau.