Adfent 2024 – Diwrnod 12

Gallem rannu ein hangerdd cymunedol i gefnogi pobl eraill

Helo, Celyn ydw i, dwi’n ddeg oed ac yn byw yn Llanelli. Rwy’n hoffi darllen a garddio, ac roeddwn i eisiau rhannu hynny gyda fy nghymuned. Ac felly yn 2020 sefydlais ‘Callie’s Free Plants and The Little Sunflower Library’. Rydym yn plannu blodau a llysiau ac yn eu rhoi i bobl. Rydym yn derbyn rhoddion o lyfrau gan ein cymuned ac yn eu dosbarthu o’n llyfrgell fach am ddim. Rwyf wrth fy modd yn gwirfoddoli oherwydd rwy’n hoffi helpu pobl a llonni calonnau. Gan ddymuno Nadolig Llawen i chi o’r ‘Little Sunflower Library and Callie’s Free Plants’.