Adfent 2024 – Diwrnod 13

Gallem helpu un o'n cymdogion i fynychu apwyntiad

Shwmae, fy enw i yw Philip ac rwy’n un o’r gwirfoddolwyr yng nghaffi atgyweirio Caerfyrddin. Rydym yn cwrdd ar ail ddydd Sadwrn bob mis a’n prif nod yw atal pethau rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Mae gennym grŵp o tua 20 o wirfoddolwyr â sgiliau amrywiol; gan gynnwys eitemau electroneg, gwnïo, dodrefn, gweithio â phren, miniogi. Rydym yn rhoi sylw i bron popeth, ond mae gennym hefyd rai aelodau pwysig iawn o’r tîm sef y bobl sy’n gwneud y te, y coffi a’r cacennau i ni a hefyd yr ochr weinyddol. Felly os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn y caffi atgyweirio, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Rydym mor falch o allu cefnogi Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr gyda’i hymgyrch “Rydyn ni gyda chi” gan ei bod yn rhan mor bwysig o’r gymuned.