Mae gwirfoddolwyr yn tanio newid cadarnhaol ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill.
Fodd bynnag, mae cynnal corff cryf ac ymrwymedig o wirfoddolwyr yn galw am ymdrech ac ymroddiad.
Dyma ein 10 syniad gorau i gefnogi gwaith cadw gwirfoddolwyr gwych, sy’n cael eu hysbrydoli gan fudiadau bywiog Sir Gaerfyrddin ac sy’n gydnaws â pholisïau Llywodraeth Cymru.
Creu Diwylliant Gwerthfawrogol: Mae dangos ein bod yn gwerthfawrogi ymdrechion gwirfoddolwyr yn hollbwysig. Mae Côr Hosbis Sir Gaerfyrddin yn gwneud hyn trwy gynnal digwyddiadau gwerthfawrogi rheolaidd. Meddai’r gwirfoddolydd Jane Roberts, “Mae teimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi yn cynnal ein hysbryd i fod eisiau dal ati i wirfoddoli.”
Hwyluso Cyfathrebu Agored: Dylech annog adborth a deialog er mwyn rhoi sylw i bryderon a syniadau gwirfoddolwyr. Mae Achub Anifeiliaid Sir Gaerfyrddin yn cynnal sesiynau adborth rheolaidd i asesu bodlonrwydd gwirfoddolwyr. Dywedodd y Cydlynydd Gwirfoddoli Hannah Morris, “Mae cyfathrebu agored yn cryfhau’r cwlwm sydd rhyngom ac yn gwella ein gwaith.”
Cynnig Cyfleoedd i Dyfu: Mae annog datblygiad personol a phroffesiynol yn cryfhau’r cysylltiad â gwirfoddolwyr. Mae Theatr Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn trefnu gweithdai ar dechnegau a chrefft llwyfan. Meddai’r gwirfoddolydd Sarah Lewis, “Mae’r cyfleoedd ar gyfer twf yn ddiddiwedd, ar y llwyfan ac oddi arno.””
Dewisiadau Gwirfoddoli Hyblyg: Mae hyblygrwydd yn helpu gyda threfniadau ac ymrwymiadau amrywiol gwirfoddolwyr. Mae Cefnogi Gofalwyr Sir Gaerfyrddin yn cynnig dewisiadau gwirfoddoli o bell i roddwyr gofal sy’n brin o amser. Mae’r Cydlynydd Gwirfoddoli Bethan Griffiths yn esbonio, “Mae rolau hyblyg yn sicrhau y gall pawb gyfrannu, waeth beth yw eu hamgylchiadau.”
Cynnig Disgwyliadau Clir: Mae cael eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau gwirfoddolwyr yn meithrin bodlonrwydd ymhlith gwirfoddolwyr. Mae Cegin Gymunedol Llandeilo yn gofalu fod gwirfoddolwyr yn deall eu tasgau trwy sesiynau cynefino cynhwysfawr. Dywedodd y Cydlynydd Gwirfoddoli David Jones, “Mae disgwyliadau clir yn galluogi gwirfoddolwyr i ragori yn eu rolau.”
Meithrin Ymdeimlad o Berthyn: Mae meithrin ymdeimlad o gymuned ymhlith gwirfoddolwyr yn cryfhau eu cysylltiad gyda’r mudiad. Mae Grŵp Amgylcheddol Llanelli yn cynnal cyfarfyddiadau cymdeithasol rheolaidd sy’n meithrin ymdeimlad o berthyn ymhlith yr aelodau. Dywedodd y gwirfoddolydd Tom Lewis, “Rydyn ni’n fwy na gwirfoddolwyr, rydyn ni’n deulu sy’n gweithio tuag at ddyfodol gwyrddach.”
Croesawu Amrywiaeth a Chynhwysiant: Mae dathlu amrywiaeth yn creu amgylchedd croesawgar i bob gwirfoddolydd. Mae Pwyllgor Pride Sir Gaerfyrddin yn sicrhau cynrychiolaeth gan bobl LHDTC+ mewn rolau arweinyddol. Meddai’r gwirfoddolydd Emily Patel, “Mae cynhwysiant yn fwy na gair gwag yma; dyma ein realiti, a dyna sy’n gwneud ein cymuned yn gryfach.”
Adborth a Mewnbwn: Mae gofyn am adborth gwirfoddolwyr yn dangos fod eu barn yn cael ei gwerthfawrogi. Mae Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn cynnal sesiynau adborth rheolaidd i gasglu mewnbwn ar brosiectau a mentrau. Dywedodd yr aelod gwirfoddol Emily Davies, “Mae ein llais yn llywio cyfeiriad eiriol dros bobl ifanc yn y sir.”
Dathlu Cerrig Milltir: Mae cydnabod cerrig milltir gwirfoddolwyr yn meithrin ymdeimlad o falchder a chyflawni. Mae Cymdeithas Hanes Cydweli yn anrhydeddu gwirfoddolwyr hirdymor trwy roi placiau dathlu iddynt. Meddai’r gwirfoddolydd Tom Williams, “Mae cael cydnabyddiaeth am fy ymroddiad yn gwneud imi fod eisiau dal ati i wasanaethu ein cymuned.”
Cynnig Cefnogaeth ac Arweiniad: Mae cynnig mentora a chefnogaeth yn helpu gwirfoddolwyr i wynebu heriau yn effeithiol. Mae Grŵp Cefnogi Iechyd Meddwl Sir Gaerfyrddin yn paru gwirfoddolwyr newydd gydag aelodau profiadol. Dywedodd y Cydlynydd Gwirfoddoli Laura Evans, “Mae perthnasoedd cefnogol yn hollbwysig ar gyfer cadw gwirfoddolwyr a gofalu am eu llesiant.”
Heblaw am afiechyd, a newid mewn amgylchiadau teuluol yn rhesymau dros roi’r gorau i wirfoddoli – mae cael profiad gwirfoddoli da yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’ch gallu i gadw eich gwirfoddolwyr.
Trwy weithredu’r 10 syniad da yma, gall elusennau a grwpiau cymunedol Sir Gaerfyrddin greu amgylchedd lle y mae gwirfoddolwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi ac yn awyddus i ddal ati gyda’u gwaith pwysig. Fel Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, mae Rebecca Evans yn pwysleisio, “Gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn ein cymunedau, a thrwy weithio’n galed i’w cadw, rydym yn buddsoddi yn nyfodol Cymru.” Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu Sir Gaerfyrddin gryfach a mwy cydnerth am genedlaethau i ddod.