Mae Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr yn ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol sy’n digwydd bob 1-7 Mehefin yn y DU ac mae’n ddathliad o’r cyfraniad y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i gymdeithas.
Mae’n gyfle i Sir Gaerfyrddin ddathlu a dweud diolch i’n trigolion sy’n rhoi o’u hamser.
Rydym yn annog grwpiau i drefnu digwyddiad, gwahodd ffigurau gwleidyddol, canmol a gwobrwyo eu gwirfoddolwyr a rhannu eu straeon ar draws y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #WythnosGwirfoddolwyr
Mae hwn hefyd yn amser gwych i arddangos ac annog eraill i wirfoddoli gyda chi.
Gallwch gael gafael ar adnoddau yma i’ch helpu i drefnu eich wythnos gan gynnwys. logos a dempledi.
Efallai y bydd rhai o’n digwyddiadau yn y gorffennol yn eich ysbrydoli – gweler ein tudalen Wythnosau Gwirfoddolwyr Blaenorol.