Gwirfoddoli yn Gymraeg

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Ar gyfer Gwirfoddolwyr

Ydych chi’n siarad Cymraeg? Dyma’r dudalen i chi (Gwirfoddoli Cymru).
‘P’un a ydych yn gwirfoddoli yn eich banc bwyd lleol, yn ateb y ffôn neu’n dosbarthu bwyd mewn cyfnod o argyfwng, mae yna gyfle i chi ddefnyddio eich Cymraeg, hyd yn oed os nad ydych wedi gwneud hynny ers tro.’

Ar gyfer Sefydliadau

Fframwaith Gwirfoddoli yn Gymraeg - Canllaw i fudiadau yn y trydydd sector

“Mae’r fframwaith yma yn rhan o gynllun ehangach gan Mentrau Iaith Cymru i greu sefyllfa lle mae:

  • dealltwriaeth lawn gan fudiadau gwirfoddol o sut i fynd ati i ddenu gwirfoddolwyr sydd eisiau defnyddio’r Gymraeg, a
  • chynnydd yn y nifer o bobl sy’n gwirfoddoli ac yn gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r fframwaith wedi ei seilio ar waith ymchwil a gasglwyd drwy gynnal cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda mudiadau gwirfoddol. Drwy’r gwaith hynny rydym wedi casglu enghreifftiau o arfer da a syniadau rhagweithiol am sut i fynd ati i recriwtio gwirfoddolwyr sy’n medru siarad Cymraeg.
Rydym hefyd wedi edrych ar y rhwystrau sy’n wynebu mudiadau gwirfoddol ar hyn o bryd yn y cyd-destun hwn.
Mae’r fframwaith yma yn cynnig syniadau ymarferol ar sut i fynd ati i ddatrys yr heriau hynny.”

Gweler y fframwaith