Ymgysylltu

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Rhwydweithiau Trydydd Sector Sir Gâr:

Mae CAVS yn hwyluso gwahanol gyfarfodydd rhwydwaith i sefydliadau’r trydydd sector gymryd rhan ynddynt a chyfrannu atynt.
Mae’r cyfarfodydd hyn yn gyfle i grwpiau rannu profiadau a syniadau a thrafod unrhyw faterion sy’n bwysig iddynt e.e. anghenion a phryderon sefydliadol, gwirfoddoli, cyfleoedd ariannu, ffyrdd o gydweithio, strategaethau adfer Covid-19 ac ati. 
Mae’n gyfle i chi ddweud eich dweud a rhannu gwybodaeth am y materion sy’n effeithio arnoch yn uniongyrchol.
 

Rhwydweithiau:

Hyrwyddo'ch gwasanaethau \ Rhannu gwybodaeth

Infoengine yw’r cyfeirlyfr ar gyfer gwasanaethau trydydd sector yng Nghymru. Cofrestrwch eich gwasanaeth neu chwiliwch am wasanaethau yn eich cymuned.

Ychwanegwch eich Canolfan Gymunedol at wefan Neuaddau Cymunedol Sir Gâr

Gallwn eich helpu i rannu gwybodaeth gyda’r Trydydd Sector. Gweler Rhannu Gwybodaeth

Partneriaethau Strategol - Cydweithio

Mae CAVS yn gweithio’n agos gyda phartneriaid statudol i sicrhau bod llais y Trydydd Sector yn cael ei glywed yn y sir.

Am ragor o wybodaeth gweler ein tudalen Partneriaethau Strategol