Cyswllt Cymunedol (Facebook)

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Mae Sir Gâr wedi profi bod cymdogion yn cefnogi cymdogion – ac mae grwpiau wedi’u creu ar draws y cyfryngau cymdeithasol i gydlynu’r ymdrechion hyn. Grwpiau Facebook a grwpiau WhatsApp yn ddim ond dwy enghraifft.

Mae grŵp Cyswllt Cymunedol CAVS yn ffordd o ddod â’r ymdrech gydlynol yma at ei gilydd i rannu arfer da, cynnig cefnogaeth a chyngor a chreu’r cyfle i grwpiau ‘rannu’r baich’.

Trefnwyr/cydlynwyr grwpiau/gweinyddwyr grwpiau COVID 19 gallwch gofrestru gyda Jamie Horton, ein Swyddog Datblygu Gwirfoddoli Cymunedol drwy e-bostio:  Jamie.Horton@cavs.org.uk  byddwch hefyd yn cael mynediad at gyllid, hyfforddiant a chyfleoedd cyfarfod ychwanegol.

P’un a ydych yn unigolyn sy’n casglu’r siopa, stryd o dai neu grŵp mwy, derbyniwch ein gwahoddiad ac ymunwch â’n grŵp.

Cylchlythyr Cyswllt Cymunedol Ionawr 2021