Rhwydwaith Amgylchedd

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Rhwydwaith Amgylchedd Trydydd Sector Sir Gâr

Ymgyrch straeon gwyrdd

Mae Rhwydwaith Amgylchedd Trydydd Sector Sir Gâr am godi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol a rhannu enghreifftiau da o’r hyn sydd eisoes yn cael ei gyflawni gan grwpiau lleol.

Cefndir grŵp: Nod y rhwydwaith hwn yw caniatáu i sefydliadau’r 3ydd Sector sy’n ymwneud â materion amgylcheddol rannu gwybodaeth a chydweithio i gyflawni nodau cyffredin.

Ffocws a nodau’r grŵp:

  • Cyflwyniad cryno
  • Nodiadau llawn (o’u trafod yn y cyfarfod 16.09.20)

Bydd y cyfarfod hwn yn anelu at ddatblygu’r syniadau a drafodwyd eisoes ar feysydd posibl o gydweithredu yn y dyfodol: e.e. codi ymwybyddiaeth, darparu cefnogaeth, gwybodaeth, arweiniad ac ati i’r 3ydd sector ehangach.

Dyma gyfle hefyd i sefydliadau rannu profiadau a syniadau a thrafod unrhyw faterion sy’n effeithio arnyn nhw yn ystod yr argyfwng hwn.

Bydd y rhwydwaith hefyd yn caniatáu i grwpiau ddilyn y cynnydd a wnaed gan Grŵp cyflenwi Arferion Iach y BGC wrth weithredu Cynllun Llesiant Sir Gâr.

Cyfarfod nesaf:

TBC

Cyfarfodydd blaenorol:

Arolwg Bwyd ar gyfer Sir Gâr

Mae Rhwydwaith Bwyd Sir Gâr yn gweithio i ddeall y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn dod o hyd at fwyd ar draws y sir.

Bwyd i’r Rhanbarth

Ebrill 05, 2022 @ 12:00

Cost: Am Ddim

Lleoliad: Ar-lein – Zoom