
Yn falch o fod yn rhan o bartneriaeth Bwyd Sir Gâr
Creu system fwyd iachach, decach a mwy cynaliadwy yn Sir Gâr.
Bwyd Sir Gâr yw partneriaeth fwyd lleol Sir Gaerfyrddin.
Ein nod yw cyd-greu system fwyd leol sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol sy’n cynhyrchu, yn hyrwyddo ac yn helpu i ddarparu bwyd fforddiadwy, iach a chynaliadwy i bawb.
Rhwydwaith Bwyd Sir Gâr yw’r llais llawr gwlad sy’n bwydo i mewn i’r bartneriaeth ac yn cefnogi ein grwpiau clwstwr i gysylltu, rhannu a chefnogi ei gilydd.

CYMUNED
(gan gynnwys darparwyr bwyd cymunedol, sefydliadau cymorth cymunedol ehangach i’r rhai sy’n profi ansicrwydd bwyd, tyfu cymunedol hygyrch a thyfu cymunedol cysylltiedig, coginio, gweithgareddau rhannu prydau bwyd sy’n gysylltiedig â gwella cydlyniant cymunedol, lles a deiet iach ac ecogyfeillgar sy’n uchel mewn cynhwysion lleol a chynaliadwy).
CADWYNI CYFLENWI
(gan gynnwys cynhyrchwyr sylfaenol, logisteg a dosbarthu, manwerthu, arlwyo a lletygarwch gyda’r nod o gryfhau cynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol a chynaliadwy i gryfhau ac arallgyfeirio’r economi fwyd leol)
STRATEGOL
(gan gynnwys addysgwyr cynradd, uwchradd, AB ac AU, cyrff cyhoeddus, cydweithio ar y cyd â sefydliadau preifat/cyhoeddus/cymunedol, cydweithrediad/partneriaethau rhanbarthol a chenedlaethol)

Mae’r fesen yn symbol o dwf ac adnewyddiad yn y byd naturiol, ac yn cyfeirio’n gynnil at dreftadaeth a chwedloniaeth Sir Gaerfyrddin.
Mae deilen yn cynrychioli cynhyrchiant bwyd a thwf ffres o fewn tirwedd amrywiol o fryniau tonnog.
Mae Afon Tywi ac arfordir Sir Gaerfyrddin yn cael eu cyfleu ar ffurf dŵr, ac mae’r fforch yn cyfeirio at goginio a bwyta.
Ein Cenhadaeth
Nod Bwyd Sir Gâr yw creu system fwyd iachach, decach a mwy cynaliadwy drwy ddull partneriaeth sy’n seiliedig ar le.
Ein Gweledigaeth
Cyd-greu system fwyd leol sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yn cynhyrchu, hyrwyddo a darparu bwyd fforddiadwy, iach a chynaliadwy i bawb.
Ein gwerthoedd
- Grymuso
- Cydweithredu
- Cynhwysol
- Hygyrch
- Arloesol


Lleoedd Bwyd Cynaliadwy


Mae Bwyd Sir Gâr Food yn falch o fod yn aelod o rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ac yn 2023, mawreddog, sef statws Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy i gydnabod ei hymrwymiad i ddatblygu system fwyd lewyrchus, gynaliadwy, gynhwysol a chydnerth ledled y sir.
CAVS

Sefydlwyd Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CAVS), yn 2021, i fynd i’r afael â phryderon ynghylch mynediad at fwyd yn ystod pandemig Covid-19.
Cafodd y gwaith hwn ei gydlynu i ddechrau gan Jamie Horton, Swyddog Datblygu Gwirfoddoli Cymunedol, a’i ariannu drwy Newid Trawsnewidiol Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Yn 2023 fe wnaethom sicrhau Swyddog Rhwydwaith Bwyd newydd Sir Gaerfyrddin, Alex Nichols, trwy Gyllid Ffyniant Gyffredin y DU.
Yn 2023 fe wnaethom sicrhau Swyddog Rhwydwaith Bwyd newydd Sir Gaerfyrddin, Alex Nichols, trwy Gyllid Ffyniant Gyffredin y DU.
01: WAG Transformational Change Report
02: Cynorthwy-ydd Rhwydwaith Bwyd
03: Alex Report
04: Community Food