Rhwydwaith Amgylchedd Trydydd Sector Sir Gâr

Mae Rhwydwaith Amgylchedd Trydydd Sector Sir Gâr am godi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol a rhannu enghreifftiau da o’r hyn sydd eisoes yn cael ei gyflawni gan grwpiau lleol.
Cefndir grŵp: Nod y rhwydwaith hwn yw caniatáu i sefydliadau’r 3ydd Sector sy’n ymwneud â materion amgylcheddol rannu gwybodaeth a chydweithio i gyflawni nodau cyffredin.
Ffocws a nodau’r grŵp:
- Cyflwyniad cryno
- Nodiadau llawn (o’u trafod yn y cyfarfod 16.09.20)
Bydd y cyfarfod hwn yn anelu at ddatblygu’r syniadau a drafodwyd eisoes ar feysydd posibl o gydweithredu yn y dyfodol: e.e. codi ymwybyddiaeth, darparu cefnogaeth, gwybodaeth, arweiniad ac ati i’r 3ydd sector ehangach.
Dyma gyfle hefyd i sefydliadau rannu profiadau a syniadau a thrafod unrhyw faterion sy’n effeithio arnyn nhw yn ystod yr argyfwng hwn.
Bydd y rhwydwaith hefyd yn caniatáu i grwpiau ddilyn y cynnydd a wnaed gan Grŵp cyflenwi Arferion Iach y BGC wrth weithredu Cynllun Llesiant Sir Gâr.
Cyfarfod nesaf:
TBC
Cyfarfodydd blaenorol:

Trysorau’r Filltir Sgwar -Rownd 2
Gall cymunedau ledled Cymru nawr wneud cais am grant rhwng £3,000 a £10,000 ar gyfer prosiectau cyfalaf fydd yn annog ymgysylltiad â’u treftadaeth leol.
Dyddiad cau 04.10.21

Rhwydwaith Amgylchedd 3ydd Sector Sir Gâr
Hydref 07, 2021 @ 10:30am
Cost: Am ddim
Lleoliad: Ar lein- Zoom

Lansio ymgyrch ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus well a fforddiadwy ar draws Sir Gaerfyrddin
Mae ymgyrch wedi cael ei lansio yn galw am fwy o drafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy a gwell ar draws Sir Gaerfyrddin.