Straeon Gwyrdd

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Rhannwch Eich Stori Werdd

#SirGârWerdd #StraeonGwyrddSirGâr

  • A yw eich cymuned wedi datblygu prosiect amgylcheddol gynaliadwy?
  • Ydych chi’n mynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo ‘ffordd o fyw’ werdd?
  • Ydych chi’n defnyddio ‘Gwirfoddolwyr Gwyrdd’?
  • Ydych chi’n elusen amgylcheddol ac/neu a yw eich elusen yn hyrwyddo ac yn annog ‘neges werdd’?
  • A yw eich busnes yn ymgysylltu â phrosesau ecogyfeillgar? Ydych chi’n gweithio tuag at fod yn gynaliadwy?
  • Fel unigolyn ydych chi’n poeni am eich amgylchedd? Ydych chi’n ailgylchu? A ydych yn ymwneud ag unrhyw brosiectau sy’n gwneud hynny?
  • Ydych chi’n mwynhau mannau gwyrdd?

Mae Rhwydwaith Amgylchedd Trydydd Sector Sir Gaerfyrddin am godi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol a rhannu enghreifftiau da o’r hyn sydd eisoes yn cael ei gyflawni gan grwpiau lleol e.e. y manteision o fod allan yn yr awyr iach ymhlith natur, diogelu’r amgylchedd, paratoi ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd a gweithredu yn ei erbyn.

BETH BYNNAG yw eich stori hoffem glywed amdani. Gallwch ddefnyddio’r templed canlynol fel canllaw neu gael eich arwain yn organig gan yr hyn rydych yn ei wneud i gyfrannu at gefnogi Sir Gaerfyrddin i fod fwy ymwybodol o’r amgylchedd. Defnyddiwch fformatau eich dewis – gwe-gamera, ffôn symudol, ffotograffau, PowerPoint, e-bost, recordio llais … Bydd eich  straeon  yn  cael eu  coladu a’u  rhannu’n ddigidol.

Anfonwch eich Stori Werdd at clare.pilborough@cavs.org.uk

Lawrlwythwch wybodaeth a ffurflen i’w hanfon drwy e-bost (MIcrosoft Word)

Cyflwyno gan ddefnyddio ffurflen ar-lein

Straeon Gwyrdd Diweddaraf