Rhwydwaith Canolfannau Cymunedol

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Rhwydwaith Canolfannau Cymunedol Sir Gâr

Ar hyn o bryd rydym yn ysgrifennu fersiwn Gymraeg o’r dudalen hon – dewch yn ôl yn fuan!

Mae gan Sir Gaerfyrddin nifer fawr o neuaddau a ddefnyddir gan bobl y Sir, ac i lawer maent yn galon y gymuned. Maen nhw’n helpu lleihau ynysigrwydd ac unigrwydd, maen nhw’n cynnig cyfleoedd i ddatblygu cyfeillgarwch a camaraderie yn ogystal â chynyddu sgiliau, gwybodaeth, hyder a gwytnwch.

Maent hefyd yn gyfarwydd â threfnu cyfarfodydd a chynadleddau, priodasau, partïon pen-blwydd, dod yn orsafoedd pleidleisio a chynnal dathliadau a digwyddiadau arbennig o bob math.

Fel gyda’n rhwydweithiau eraill, mae’r Rhwydwaith Canolfannau Cymunedol yma i gynnig y cyfle ichi rannu yn eich dathliadau, elwa o wybodaeth a phrofiad eraill, cael y diweddaraf am ganllawiau, newidiadau mewn polisïau a gweithdrefnau a lleisio rhwystredigaethau sy’n ein helpu i ddysgu a goresgyn heriau.

Sut all CAVS helpu

Mae nifer o resymau pam y gallech fod angen ein cefnogaeth – boed i gael cymorth gyda’ch dogfennau llywodraethu, diweddariadau ar ganllawiau o’r Senedd am agor, syniadau ar gyfer recriwtio gwirfoddolwyr a fframweithiau o gwmpas eu hyfforddiant/goruchwyliaeth neu i gael cyfarwyddyd ar gyfleoedd ariannu a cheisiadau am arian. Fel adeilad cymunedol mae gennym staff medrus ar gael i siarad â chi ar y ffôn, ar-lein ac wyneb yn wyneb – ac os nad yw’r atebion gennym byddwn yn gallu eich cyfeirio at rywun fydd yn gallu helpu.

Cyswllt 01267 245 555/ e-bost admin@cavs.org.uk i wneud apwyntiad cychwynnol/gofyn am alwad yn ôl.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Virtual AGMs

 

Infoengine

Infoengine is the directory of third sector services in Wales. Is your information listed on there?

Connect Carmarthenshire

Connect Carmarthenshire has been created to bring communities and individuals together