CUSP – Prosiect Cefnogi Unedig Sir Gâr
Mae CUSP yn bartneriaeth trydydd sector sy’n ceisio cefnogi pobl i fyw’n dda ac yn annibynnol a lleihau effaith anabledd ac afiechyd.
Mae CUSP yn targedu pobl 18+ oed sydd mewn perygl o golli eu hannibyniaeth
trwy iechyd gwael neu lesgedd cynyddol.
Ei nod yw rhwystro eu hanghenion rhag datblygu ymhellach, arafu dirywio, helpu adfer annibyniaeth a chynnig llwybr effeithiol at wasanaethau statudol dim ond pan mae eu hangen.
Mae’r prosiect yn ceisio cysylltu unigolion yn ôl at eu cymuned a chynnig atebion ymarferol sy’n cynnal annibyniaeth a helpu pobl i wneud yn fawr ohoni.
Mae CAVS yn rhan ganolog o wneud y bartneriaeth yn llwyddiant a darparodd yr ysgrifenyddiaeth er mwyn sicrhau bod y bartneriaeth yn parhau i ddatblygu.