Rhwydwaith Bwyd Sir Gâr

Mae Rhwydwaith Bwyd Sir Gâr ar gyfer unrhyw un yn y sir sy’n helpu i fwydo ei thrigolion
Rydym yn ymuno gyda’n gilydd ledled y Sir i frwydro yn erbyn tlodi bwyd.
Y cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd ar Chwefror 10fed 2021 gyda dros 60 o gyfranogwyr yn cyfrannu.
Prif egwyddorion y rhwydwaith yw Cysylltu ag unigolion o’r un anian i liniaru tlodi bwyd ar draws y sir; Rhannu adnoddau, sgiliau, profiad, gwybodaeth a gwirfoddolwyr, a chefnogi ei gilydd i gefnogi ein dinasyddion.
Mae croeso i chi ymuno â ni. (Gweler isod)
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: Jamie.Horton@cavs.org.uk

Ein Gweledigaeth
“Ein gweledigaeth yw i drigolion Sir Gaerfyrddin allu cael gafael ar fwyd da, glân a theg gyda’r sgiliau a’r wybodaeth i rymuso ffyrdd iachach o fyw”
Ein Cenhadaeth
“Datblygu rhwydwaith cydlynol o aelodau sy’n gallu cefnogi darpariaeth bwyd cynaliadwy drwy gysylltu â’i gilydd a’r gymuned, rhannu adnoddau ac arfer gorau a chefnogi ei gilydd i gynnig llwybr cynhwysfawr ac urddasol i’r rhai sydd mewn perygl/ansicrwydd o dlodi bwyd”.


Ein Gwerthoedd
“Gweithio mewn modd cydweithredol i gynnal gweledigaeth a phwrpas y rhwydwaith. Hyrwyddo caredigrwydd a goddefgarwch yn ein harferion, bod yn dryloyw a gweithredu’n onest. Rydym yn cydnabod yr angen i addasu i dirwedd ac anghenion newidiol ein cymuned”.
Rydym yn cynrychioli’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ledled Sir Gaerfyrddin ac yn ymrwymo i weithio mewn partneriaeth.
Ymunwch â'r Rhwydwaith Bwyd
Cyfarfodydd sydd i ddod a chyfarfodydd blaenorol
Cylchlythyr Rhwydwaith Bwyd (yn Saesneg)
Rhwydwaith Bwyd - Grŵp facebook
Cysylltiadau Rhwydwaith Bwyd
Ffurflenni atgyfeirio
- Rhagnodwyr Cymdeithasol
- Mind Llanelli
- Cyfeillio’n Cysylltu Bywydau – Canllawiau ar gyfer asiantaethau atgyfeirio
- Referral to Coed Lleol/Small Woods Programmes
- Self Registration form (Welsh) (if at all possible we ask individuals to register themselves)
- Referral form (for use by health boards, social prescribers, 3rd sector organisations, friends, family etc )
Adnoddau
Gwybodaeth ddefnyddiol am wahanol bynciau.
Dolenni Allanol
