Sut all CAVS helpu
Gall CAVS gefnogi mudiadau i weithredu arferion llywodraethu da.
Ein nod yw gwella sgiliau a hyder y sawl sy’n cychwyn a rhedeg grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol, yn fach neu fawr, er mwyn rhedeg eu mudiadau yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys eu helpu i recriwtio a chadw pwyllgorau rheoli ac ymddiriedolwyr medrus ac amrywiol, symbylu a datblygu prosiectau, a monitro canlyniadau.
Gallwn eich helpu gyda [gwybodaeth, arweiniad a chymorth datblygu]
- dewis y strwythur a’r cyfansoddiad iawn
- cofrestru
- datblygu neu ddiweddaru dogfennau a pholisïau llywodraethiant
- diogelu, diogelu data/GDPR, rheoli risg, cydraddoldeb ac amrywiaeth, safonau y Gymraeg
- rheoli pobl a rheoli asedau
- ymddiriedolaethau
- help gydag anghydfodau
- systemau sicrhau ansawdd
- cyfleoedd dysgu a datblygu (rhwydweithio, hyfforddiant & digwyddiadau).
Er mwyn cael mwy o wybodaeth cysylltwch â ni ar 01267 245555 neu e-bostiwch admin@cavs.org.uk

Mudiadau defnyddiol
Gwybodaeth ddefnyddiol
Dogfennau llywodraethiant
Tudalennau CAVS
Adnoddau Hwb Gwybodaeth CTSC
Mae’r Hwb Gwybodaeth yn lle sy’n eich galluogi i ddysgu a chysylltu ag eraill ar draws y Trydydd Sector. Mae’r Hwb Gwybodaeth yn darparu gwahanol fathau o wybodaeth ddigidol ac adnoddau dysgu
Trowch at Adran Adnoddau Llywodraethu Da yr Hwb Gwybodaeth lle y gallwch lawr lwytho canllawiau a dogfennau gwybodaeth PDF ar bynciau perthnasol.

Cynhadledd Llywodraethu Rhanbarthol Rhithwir Gorllewin Cymru – Adnoddau
Cyflwyniadau / Gwybodaeth o
Gynhadledd Llywodraethu Rhanbarthol Rhithwir Gorllewin Cymru
25-29 Ebrill 2022

Diogelu a Gwasanaeth Datgelu & Gwahardd
Ebrill 25, 2022 @ 12:00
Cost: Am ddim
Lleoliad: Ar-lein Zoom

Seiberddiogelwch
Ebrill 26, 2022 @ 12:00
Cost: Am ddim
Lleoliad: Ar-lein – Zoom

Gweithio Hybrid
Ebrill 27, 2022 @ 12:00
Cost: Am ddim
Lleoliad: Ar-lein – Zoom

Gwella Amrywiaeth y Bwrdd, recriwtio a chadw ymddiriedolwyr
Ebrill 28, 2022 @ 12:00
Cost: Am Ddim
Lleoliad: Ar-lein – Zoom

Trosolwg Rhanbarthol ac Ymlacio
Ebrill 29, 2022 @ 12:00
Cost: Am ddim
Lleoliad: Ar-lein Zoom