Llywodraethu da

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Sut all CAVS helpu

Gall CAVS gefnogi mudiadau i weithredu arferion llywodraethu da.

Ein nod yw gwella sgiliau a hyder y sawl sy’n cychwyn a rhedeg grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol, yn fach neu fawr, er mwyn rhedeg eu mudiadau yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys eu helpu i recriwtio a chadw pwyllgorau rheoli ac ymddiriedolwyr medrus ac amrywiol, symbylu a datblygu prosiectau, a monitro canlyniadau.

Gallwn eich helpu gyda [gwybodaeth, arweiniad a chymorth datblygu]

  • dewis y strwythur a’r cyfansoddiad iawn
  • cofrestru
  • datblygu neu ddiweddaru dogfennau a pholisïau llywodraethiant
  • diogelu, diogelu data/GDPR, rheoli risg, cydraddoldeb ac amrywiaeth, safonau y Gymraeg
  • rheoli pobl a rheoli asedau
  • ymddiriedolaethau
  • help gydag anghydfodau
  • systemau sicrhau ansawdd
  • cyfleoedd dysgu a datblygu (rhwydweithio, hyfforddiant & digwyddiadau).

 

Er mwyn cael mwy o wybodaeth cysylltwch â ni ar 01267 245555 neu e-bostiwch admin@cavs.org.uk

Gwybodaeth ddefnyddiol

Adnoddau Hwb Gwybodaeth CTSC

Mae’r Hwb Gwybodaeth yn lle sy’n eich galluogi i ddysgu a chysylltu ag eraill ar draws y Trydydd Sector. Mae’r Hwb Gwybodaeth yn darparu gwahanol fathau o wybodaeth ddigidol ac adnoddau dysgu

Trowch at Adran Adnoddau Llywodraethu Da yr Hwb Gwybodaeth lle y gallwch lawr lwytho canllawiau a dogfennau gwybodaeth PDF ar bynciau perthnasol.