Gallaf rannu fy nerth - I can share my strength
Mae gwasanaethu fel gwirfoddolwr gyda Sefydliad John Burns yn antur hyfryd o alluogi pobl yn y gymuned i gyfarfod gyda’i gilydd ar gyfer gweithgareddau amrywiol. Mae cynnig help llaw yn werth chweil ac yn bywiogi diwrnod rhywun gan wybod bod Sefydliad Burns yno ar eu cyfer.
Rwy’n mwynhau cwrdd â phobl ac rwy’n teimlo fy mod i’n gwneud gwahaniaeth drwy, er enghraifft, gyrru’r bws mini neu helpu rhywun i gadw apwyntiad – rhywbeth maen nhw’n gwybod sy’n bwysig iddyn nhw. Dwi’n canu tipyn bach hefyd. Rydych chi’n gweld, mae gwirfoddoli’n llawer o hwyl ac yn helpu i iro olwynion rhwydweithio’r gymuned leol.
Serving as a volunteer with the John Burns Foundation is a delightful adventure of enabling people in the community to meet together for various activities. Offering a helping hand is rewarding and brightens someone’s day knowing that the Burns Foundation is there for them.
I enjoy meeting up with people and I feel I am making a difference by, say, driving the minibus or helping someone to keep an appointment – which they know is important to them. I even sing a bit too. You see, volunteering is good fun and helps oil the local community’s networking wheels.