Mae gofod3 yn ôl – yn fwy ac yn well nag erioed.
(Trefnir gofod3 gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) ar y cyd â’r sector gwirfoddol yng Nghymru)
Mae CGGC wrth ein boddau i’ch gwahodd chi i gofod3 eleni, a fydd yn cael ei gynnal ar-lein rhwng dydd Llun 28 Mehefin a dydd Gwener 2 Gorffennaf: www.gofod3.cymru
Sesiynau am:
- Newid yn yr hinsawdd
- Cymunedau
- Digidol
- Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- Cyllid a chodi arian
- Llywodraethu
- Iechyd a gofal cymdeithasol
- Effaith
- Marchnata a chyfathrebu
- Iechyd meddwl
- Datblygiad proffesiynol
- Rhedeg eich mudiad
- Diogelu
- Gwirfoddoli
Fel y gwelwch chi, rydyn ni wedi ailwampio ein gwefan, felly gallwch bori trwy ein hamserlen yn hawdd nawr, yn ôl pwnc, dyddiad a mudiad. Gyda mwy na 60 o ddigwyddiadau AM DDIM sy’n ymdrin ag amrediad o bynciau, a’r gofyniad i gofrestru ar gyfer pob un sesiwn, mae’n bwysig eich bod yn cofrestru cyn gynted â phosibl!
Wrth gwrs, mae croeso i chi fynychu cymaint o ddigwyddiadau ag y dymunwch drwy gydol yr wythnos, ond gan fod yr holl ddigwyddiad ar-lein, byddem yn eich annog i dreulio rhywfaint o amser o’r sgrin bob dydd. Rydyn ni wedi llunio rhai awgrymiadau llesiant yma i’ch helpu chi.
Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwyr neu’n bob un o’r rhain, gofod3 yw eich gofod unigryw i wneud y canlynol:
Myfyrio
Mae eleni wedi bod yn anodd i ni i gyd – i rai’n fwy nag eraill – ond mae angen y sector gwirfoddol yn fwy nag erioed. Mae Covid-19 wedi gwneud hynny’n eglur i bawb. Dewch i bwyso a mesur a meddwl am y pethau sy’n bwysig i chi.
Dysgu
Mae Covid-19 wedi newid ein diwrnod gwaith am byth. Mae wedi creu tirwedd weithio newydd i bob un ohonom, felly dewch i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd i’ch helpu i lywio eich hun ac eraill drwy faes anghyfarwydd.
Cynllunio
Mae Covid-19 wedi trawsnewid bron bob agwedd ar ein byd, gan gynnwys ein cynlluniau lluniaidd, felly defnyddiwch y gofod hwn i ddechrau ar eich cynlluniau i ailgodi’n gryfach.