FareShare Cymru yn cefnogi prosiectau cymunedol yn Llanelli

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

O fis Mawrth 2022, fe fydd prosiectau cymunedol yn Llanelli yn gallu cael mynediad i fwyd dros ben o ansawdd da gan FareShare Cymru , rhan o’r rhwydwaith syn cael ei gefnogi gan bêl droediwr rhyngwladol Lloegr Marcus Rashford. 

Mae FareShare Cymru yn troi problem amgylcheddol gwastraff bwyd yn ddatrysiad cymdeithasol trwy achub bwyd dros ben gan wneuthurwyr, a’i ail ddosbarthu i elusennau a grwpiau cymunedol ledled Cymru.  Caiff y bwyd ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi i fod o fudd i wasanaethau megis llochesau ar gyfer y digartref, canolfannau cymunedol, canolfannau ar gyfer ffoaduriaid, ysgolion cynradd a.y.b.

Yng Nghymru, gwastreffir tua 400,000 tunnell o fwyd bob blwyddyn.  Pe byddai 1% yn unig o’r bwyd yna yn fwytadwy, fe fyddai’n ddigon i gyfrannu i dros 9 miliwn o brydau bwyd.  Mae hyn mewn cyfnod lle mae bron i chwarter poblogaeth Cymru yn byw mewn tlodi.

Ers 10 mlynedd mae FareShare Cymru wedi bod yn cefnogi cannoedd o aelodau o Gasnewydd i Abertawe, ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru ar y cyd gyda FareShare Glannau’r Mersi.  O ganlyniad i ymchwil a dynnodd sylw at bron i 300 o brosiectau cymunedol sydd â’r potensial i fod angen cefnogaeth fwyd yng Ngorllewin Cymru, mae’r elusen nawr yn tyfu ac yn targedu mwy o ardaloedd; gan gychwyn yn Llanelli ym mis Mawrth, Caerfyrddin ar ddechrau haf 2022 a Sir Benfro yn gynnar yn 2023.

Bydd y dosbarthiad cyntaf i Lanelli yn cyrraedd yn gynnar ym mis Mawrth.  Caiff 550kg  o fwyd ei ddosbarthu i chwe phrosiect cymunedol a fydd yn defnyddio’r bwyd yn eu gweithgareddau bwyd, megis caffis cymunedol, clybiau cinio i bobl hŷn a phrydau mewn ysgolion cynradd.

‘Mae’r dosbarthiadau rydyn ni’n eu derbyn gan FareShare Cymru yn cefnogi’n Siopau Cymunedol a gwasanaethau dosbarthu bwyd, sy’n darparu mynediad wythnosol i deuluoedd ledled Gorllewin Cymru at fwyd iachus, ffres sydd ddim rhy ddrud.’  Foothold Cymru.

Mae Foothold Cymru yn un esiampl yn unig o brosiect bwyd sy’n cael ei gefnogi gan FareShare Cymru.  Mae’r elusen yn annog ei haelodau i ddarparu mwy na bwyd yn unig, gan gynnig gwasanaeth sy’n mynd i’r afael ag achosion tlodi bwyd, fel teimlo’n ynysig, problemau ariannol neu ddiffyg sgiliau.

Yn ôl Heather Thomas o FareShare Cymru…

Mae’n gyfnod llawn cyffro i allu cynnig ein gwasanaeth yn Sir Gâr, ac yn hwyrach yn bellach mewn i Orllewin Cymru.  Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cymuned, ac mae’r cynnydd diweddar yng nghostau byw yn ei wneud yn glir, yn anffodus, y bydd angen cefnogaeth ar fwy o unigolion.  Rydym yn gobeithio y bydd cynnig ein gwasanaeth yn Sir Gâr yn golygu y bydd llai o bobl Cymru yn wynebu tlodi bwyd.

Yn ogystal â thaclo tlodi bwyd, fe arbedodd FareShare Cymru gyfwerth â 2270 tunnell o CO2 yn 2020/21. Mae wedi’i amcangyfrif pe bai gwastraff bwyd yn wlad, yna hi fyddai’r wlad sy’n allyrru’r trydydd uchaf o lefelau nwyon tŷ gwydr, ar ôl yr Unol Daleithiau a Tsieina, yn ôl Sefydliad Bwyd ac Amaeth (FAO) y Cenhedloedd Unedig.

Taflen FareShare Cymru: ‘What we do’