Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gâr 2022

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Rydym wedi dechrau’r broses o ddod o hyd i sêr chwaraeon Sir Gaerfyrddin am 2022.

Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin 2022.

Bydd gwobrau yn cydnabod ac yn gwobrwyo’r bobl hynny sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ac sydd wedi dangos cyflawniadau rhagorol yn eu maes chwaraeon. 

Bellach, gofynnir am enwebiadau ar gyfer 12 categori o wobrau am y Gwobrau Chwaraeon 2022.

Ydych chi’n gwybod am athletwr, tîm, hyfforddwr neu wirfoddolwyr sy’n haeddu cydnabyddiaeth am eu cyflawniadau?

Os ydych, beth am eu henwebu i gael gwobr?

Enwebwch Nawr!

Bydd enwebiadau’n cau ar Dydd Gwener 4ydd Tachwedd.