DYDDYIAD CAU NEWYDD – Cronfa Gofalwyr Cymunedol Sir Gaerfyrddin

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Cronfa Gofalwyr Cymunedol

SIR GAERFYRDDIN

Ariennir Cronfa Gofalwyr Cymunedol Sir Gaerfyrddin gan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru (PGGC) ac fe’ii rheolir gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CAVS)

A oes angen cyllid arnoch ar gyfer eich Grŵp Cymunedol i helpu darparu cyfleoedd ar gyfer gofalwyr, a gofalwyr di-dâl yn enwedig, i gynnal eu llesiant a chael cyfle i gymryd seibiant o’u rôl ofalu yn Sir Gaerfyrddin?

Mae gan Gronfa Gofalwyr Cymunedol Sir Gaerfyrddin gyllid ar gael NAWR o hyd at £2,000 i helpu mudiadau i ddarparu ystod o wasanaethau i gefnogi llesiant Gofalwyr, yn eu bywyd ochr yn ochr â gofalu.

Ymhlith yr enghreifftiau y gellid eu hystyried ar gyfer eu hariannu mae:

  • annog pobl i gymryd rhan mewn digwyddiadau a/neu weithgareddau lleol, gan gynnwys cychwyn gweithgareddau cymunedol megis corau, clybiau cinio, boreau coffi, grwpiau celf
  • darparu gweithgareddau seibiant i wella a diogelu iechyd meddwl gofalwyr di-dâl
  • darparu ar gyfer pobl sydd wedi’u heithrio’n ddigidol e.e. cylchlythyron ar bapur neu daflenni i’w dosbarthu o ddrws i ddrws
  • lleihau ynysigrwydd cymdeithasol megis galwadau ffôn, mentrau cynhwysiant
    digidol, ffonau symudol ac atodion
  • creu deunyddiau/gweithgareddau ar-lein newydd, marchnata a hyrwyddo

Cymhwysedd

Rhaid cwblhau prosiectau a gwario arian erbyn 31ain Mawrth 2023.

Nid yw costau staff ar gyfer dyletswyddau craidd yn gymwys. Ni fydd y Gronfa yn talu am wariant ôl-weithredol, gwariant ymroddedig na chostau ar gyfer gweithgareddau a ddechreuwyd cyn i grant gael ei gymeradwyo.

Y Broses Ymgeisio

Llenwch y ffurflen gais isod a’i chyflwyno gyda’r dogfennau ategol perthnasol i admin@cavs.org.uk

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw 5.00yp dydd Gwener 27 Ionawr 2023.

Community Carers Fund Application Form

Communtiy Carers Fund Media Consent Form

Community Carers Fund flyer Cym Rhagfyr 2022

Community Carers Form Flyer Dec 2022