Mae gan y rhan fwyaf o blant a gafodd eu geni rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011 Gronfa Ymddiriedolaeth Plant a ariannwyd gan Lywodraeth y DU. Mae bron i hanner y bobl ifanc sydd yn awr yn gymwys (18 +) i fynd at eu cynilion heb wneud hynny.
Gall unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed eu helpu i gael rhagor o wybodaeth:
Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant (moneyhelper.org.uk)
Mae gwybodaeth ar gyfer pobl ifanc yma Oes Gen Ti Arian Yn Cuddio Mewn Cronfa Ymddiriedolaeth Plant – Hafan – Meic (meiccymru.org)
Os oes angen help ar bobl ifanc i ddod o hyd i’w rhif Yswiriant Gwladol, neu i ddeall sut i ddod o hyd i’w Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, neu os ydynt yn poeni y gallai rhywun ofyn am arian o’u cronfa gallant gysylltu â Meic am help.
Mae Meic ar agor rhwng 8am a hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.
Ar y ffôn ar 080880 23456
Ar neges destun ar 84001
Neu Sgwrs ar-lein
Mae Meic yn gyfrinachol, yn ddienw, am ddim, ac yn arbennig ar dy gyfer di.
Mae mwy o wybodaeth ar gyfer pobl ifanc yn cael ei datblygu a bydd yn cael ei rannu cyn gynted ag y bydd ar gael.
TrechuTlodiAChefnogiTeuluoedd@llyw.cyrmru