Cynhadledd Llywodraethiant Gorllewin Cymru

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Mae’n ôl! Y Cynhadledd Llywodraethiant Gorllewin Cymru

Yn y cyfnod cynyddol anodd hwn ar ôl y pandemig, mae rheolaeth effeithiol a llywodraethu da yn ganolog i lwyddiant a goroesiad grwpiau gwirfoddol yng Ngorllewin Cymru. Mae pwysau cynyddol ar yr unigolion sy’n rhedeg y sefydliadau hyn i gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol.    

Nawr yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol bod gan y sector y sgiliau a’r wybodaeth i sicrhau ei wytnwch. Am y bedwaredd flwyddyn mae Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), gan weithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CAVS) a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) wedi trefnu Cynhadledd Llywodraethiant Gorllewin Cymru ar-lein, a gynhelir eleni yn ystod Wythnos Genedlaethol Elusennau Bach rhwng 19 a 23 Mehefin, gyda sesiwn ddyddiol yn cael ei chynnal rhwng 12 ac 1pm drwy Zoom.  

Bydd y sesiynau amser cinio yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am rai o’r materion allweddol y mae angen i’r trydydd sector fod yn ymwybodol ohonynt a pha gymorth sydd ar gael iddynt. Mae’r sesiynau hyn yn cynnwys gwiriadau Diogelu a DBS ar gyfer eich sefydliad; diweddariadau gan y Comisiwn Elusennau; yr Hwb Gwybodaeth a’i adnoddau rhad ac am ddim; Cwmnïau Budd Cymunedol a Menter Gymdeithasol a diweddariad rhanbarthol ar yr hyn sy’n digwydd yn y dyfodol i’r sector gwirfoddol yng Ngorllewin Cymru. 

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim i gynrychiolwyr o grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Am fanylion llawn yr holl sesiynau ac i archebu lle, gweler y digwyddiad Padlet