Dweud eich dweud ar sicrhau canlyniadau gwell i bobl Sir Gaerfyrddin.
Snap Surveys (welcomesyourfeedback.net
Mae Cyngor Sir Gâr yn gofyn am eich barn ar yr hyn y dylid ei gynnwys yn eu Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28.
Mae gwasanaethau cyhoeddus ar draws Ceredigion, Sir Benfro a Phowys wedi ymuno â’i gilydd ar yr ymgynghoriad hwn i sicrhau bod eu gweithredoedd yn deg i bob cymuned ac y gall pawb ddisgwyl cael eu trin yn deg a chyda pharch.
Anogir yr holl drigolion, sefydliadau trydydd sector a grwpiau cymunedol i gymryd rhan.
Bydd y wybodaeth a’r dystiolaeth a ddarperir yn llywio camau gweithredu i sicrhau canlyniadau gwell ac i atgyfnerthu’r sylfaen dystiolaeth ar anghydraddoldebau yn y sir.
Mae’r cyfnod ymgynghori rhwng 21/04/2023 ~ 10:28 i 31/07/2023 ~ 17:00
Bydd yr Amcanion Cydraddoldeb newydd yn cael eu cyhoeddi erbyn 1 Ebrill 2024.
Y ddolen eto i ddweud eich dweud –
Snap Surveys (welcomesyourfeedback.net
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar y Sector Cyhoeddus a elwir yn ddyletswydd gyffredinol neu ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. I grynhoi, mae’n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i:
- Dileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir dan y Ddeddf;
- Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu;
- Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Sir Gâr: