Bydd galwad olaf Cronfa Arloesi Gwledig Sir Gâr yn cau ar 29/09/2023.
Mae’r gronfa refeniw hon yn rhoi cyfle i sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau neu’n gweithio gyda chymunedau gwledig dreialu ffyrdd newydd o weithio neu syniadau sy’n mynd i’r afael â materion gwledig sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau allweddol a nodwyd.
Gweithgaredd cymwys
- Hwyluso – cymorth i sefydliadau a grwpiau i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau a’u harbenigedd eu hunain.
- Prosiectau Peilot – gweithgareddau ar raddfa fach ac am amser cyfyngedig (heb fod yn fwy na 12 mis) gyda’r nod o brofi cysyniad.
- Ymchwil – costau refeniw ar gyfer cyfuniad o gostau amser staff ac ymgynghoriaeth i ymgymryd â’r ymchwil gefndirol ar gyfer problem neu fater penodol.
Y dyfarniad mwyaf yw £45K a does dim angen arian cyfatebol.
Mae gwybodaeth pellach ar gael ar wefan y Cyngor: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/busnes/cronfa-ffyniant-gyffredin-y-deyrnas-unedig/