Cyfle Gwirfoddoli – Age Cymru

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Dewch i fod yn Eiriolwr Gwirfoddol ar gyfer pobl dros 50 oed i sicrhau bod eu lleisiau, eu barn a’u dymuniadau’n cael eu clywed

Byddwch yn cefnogi pobl yn eich cymuned leol i sicrhau bod eu lleisiau a’u dymuniadau’n cael eu clywed ac i gyflawni eu dyheadau a’u nodau personol. O fewn y rôl hon byddwch yn cefnogi pobl gyda’u problemau neu bryderon ac yn y pen draw i’w grymuso i allu datrys materion tebyg eu hunain yn y dyfodol. Gyda’ch gilydd byddwch yn datblygu cynllun gweithredu personol ac yn gweithio i gyflawni eu dyheadau.

Am fwy o wybodaeth ewch i Gwirfoddoli Cymru: Age Cymru