Ymgynghoriad ar Wasanaethau Ataliol Cymunedol
Trydydd Sector Sir Gaerfyrddin Digwyddiad Ymgynghori
Gall cyfranogwyr ymuno â’r digwyddiad naill ai drwy fynychu:
- Yn Bersonol: Tŷ Melyn, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne SA32 8HN
- NEU Yn rhithwir: Trwy Zoom
Dewch i ymuno â ni yn y digwyddiad ymgynghori â’r 3ydd Sector a’n helpu i ddatblygu model ar gyfer darparu Gwasanaethau Ataliol Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol.
Yn y digwyddiad bydd tîm comisiynu Cyngor Sir Caerfyrddin yn:
- Cyflwyno crynodeb o’r hyn rydym wedi’i ddysgu hyd yma o adolygiadau 3ydd Sector
- Rhoi amlinelliad o’r model posibl/elfennau o’r model posibl
- Casglu adborth a mewnbwn gan Ddarparwyr ar nodweddion model ataliol cymunedol yn y dyfodol
- Cytuno ar y ffordd orau o weithio gyda’n gilydd ac ymgysylltu â darparwyr lleol
- Edrych ar y ffordd orau o ymgysylltu â dinasyddion
Mae eich barn yn bwysig i ni ac rydym am weithio gyda chi i lunio dyfodol ein darpariaeth gwasanaeth 3ydd Sector a gomisiynir, felly dewch i ymuno â ni ar y 4ydd.