12:00pm – 1:00pm Mae’r cyfarfod hwn ar – lein.
Cyfle i ffeindio allan am y cyfleoedd nawdd sydd ar gael a darganfod sut mae elusennau a mudiadau cymunedol yn eich ardal yn gallu rhoi cais am nawdd wrth gwahnol gronfeydd nawdd.
Mwy o wybodaeth ffoniwch : 01267 245 555 neu ebost admin@cavs.org.uk
Mae CAVS yn ceisio cefnogi mudiadau i sicrhau a chynhyrchu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i dyfu, goroesi a chynnal eu mudiadau.
Gallwn helpu mudiadau i ddatblygu a darparu prosiectau a gwasanaethau sy’n rhoi sylw effeithiol i anghenion a nodwyd, gweithredu atebion seiliedig ar dystiolaeth ac arfer gorau; ac sy’n annog y defnydd effeithlon ac effeithiol o adnoddau a gwaith partneriaeth traws-sector.
Gall CAVS helpu gyda
- datblygu strategaethau cyllido gan gynnwys ffyrdd o ddargyfeirio incwm a thorri costau
- paratoi cyllidebau prosiectau ar gyfer incwm a gwariant
- canllawiau ar ddefnyddio gwefan gyllido rad ac am ddim Cyllido Cymru (gweler isod)
- gwybodaeth am gyfleoedd cyllido newydd trwy ddiweddariadau
- cynnig sylwadau ar geisiadau cyllid drafft
- cynlluniau grantiau bychain
- cyfleoedd dysgu a datblygu (rhwydweithio, hyfforddiant & digwyddiadau)
- mynediad at gefnogaeth i ddatblygu cyllido torfol