Cymhorthfa i Ymddiriedolwyr
- A oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch sut i redeg eich sefydliad yn gywir?
- A ydych yn gwbl gyfarwydd â’ch dogfen lywodraethu, ac a yw’n gyfredol?
- A ydych chi ar ben eich holl bolisïau i amddiffyn eich rhanddeiliaid?
Dewch draw i’n Hystafell Agored Zoom.
Os oes angen cymorth pellach arnoch gallwn drefnu sesiwn 1 i 1 gyda chi er mwyn trafod am unrhyw faterion sy’n berthnasol i’ch sefydliad.
Anfonir dolen Zoom atoch wrth archebu’ch lle.