As Fel eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu, mae gennyf nifer o ddyletswyddau statudol gan gynnwys:
- Gosod cyfeiriad a blaenoriaethau strategol yr Heddlu;
- Gosod praesept blynyddol yr heddlu a chyllideb yr heddlu; a
- Chyhoeddi Cynllun Heddlu a Throseddu.
Mae’n bwysig i mi fy mod yn gallu cynrychioli ein cymunedau wrth wneud penderfyniadau o’r fath ynghylch blaenoriaethau plismona a chyllid yr heddlu. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, mae angen i mi glywed gennych chi; preswylwyr a pherchnogion busnesau ledled ardal yr heddlu. Felly, fe fyddwn yn ddiolchgar iawn am eich amser yn cwblhau’r arolwg hwn.
Diolch,
Dafydd Llywelyn
Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Gallwch fynd at yr arolwg drwy glicio ar y dolenni isod:
Cymraeg: https://www.surveymonkey.co.uk/r/LTCQ56R
Saesneg: https://www.surveymonkey.co.uk/r/6LZ6KCK
Bydd yr arolwg yn cau ar 30 Tachwedd 2021