Wythnos Elusennau Cymru 15-19 Tachwedd 2021

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Bydd Wythnos Elusennau Cymru yn cael ei chynnal am y tro cyntaf rhwng 15-19 Tachwedd 2021. Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu’r elusennau, y mudiadau gwirfoddol, y grwpiau cymunedol a’r gwirfoddolwyr sy’n cyfoethogi bywydau pob un ohonom ni yma yng Nghymru

Wedi’i threfnu gan CGGC, caiff Wythnos Elusennau Cymru ei chefnogi gan ITV Cymru Wales.

Nôd Wythnos Elusennau Cymru yw i ddathlu gwaith rhyfeddol elusennau, mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymuneldol a gwirfoddolwyr ar draws Cymru.

Dydd Llun – 15 Tachwedd 2021

Dywedwch wrthym am adeg lle gwnaeth elusen neu wirfoddolwr eich helpu chi neu hyd yn oed newid eich bywyd. Rhannwch eich stori drwy ddefnyddio #WythnosElusennauCymru a #diolchgarwch.

#diolchgarwch

“Roeddwn i’n edrych am ffordd i fynd yn ôl i’r gwaith. Nid yn unig y gwnaeth Home-Start gynnig hwb hyder i mi ac ymdeimlad o fwy o hunan-barch ond fe wnes i ffrindiau da hefyd a dod o hyd i swydd – am 10 mlynedd!”

“Rhywbeth i edrych ymlaen ato, amgylchedd therapiwtig ac ymdeimlad o gyflawniad. Mae gwirfoddoli yn Glasbren wedi rhoi rhywbeth i mi edrych ymlaen ato bob wythnos.”

“Newidiodd Hosbis Skanda Vale fy mywyd drwy ddangos bod cymorth diwedd oes, a’r broses o farw, yr un mor bwysig â byw. Roeddwn i’n therapydd cyflenwol gwirfoddol ac yn hyfforddwr gwirfoddol hyd at gyfnod clo Covid.”

Dydd Mawrth – 16 Tachwedd 2021

Dywedwch wrthym am y bobl rydych chi wedi cwrdd â nhw wrth weithio neu wirfoddoli gydag elusennau neu drwy eu cefnogi. Rhannwch eich stori gan ddefnyddio #WythnosElusennauCymru a #cysylltiadau a chofiwch dagio’r bobl y gwnaethoch chi gwrdd â nhw!

#cysylltiadau

“Cyfarfûm â llawer o bobl ifanc gyda syniadau anhygoel ar gyfer sefydlu busnesau, yr oedd angen iddynt ddatblygu eu hyder a’u gwybodaeth ariannol, wrth wirfoddoli fel mentor busnes Prince’s Trust.”

“Drwy fy amser yn gwirfoddoli gyda Grŵp Cymorth Ceiswyr Lloches Bae Abertawe (a elwir bellach yn SASS) cyfarfûm â chymaint o wirfoddolwyr yn rhoi yn rhydd o’u hamser a’u hegni i gefnogi pobl, a nifer gyfartal o bobl ddewr a hael anhygoel sy’n cefnogi ei gilydd.”

“Pobl anhygoel, ymroddedig anhunanol.”

“Kiwi, Cymraes, gwr o Awstralia, merch o Birmingham a’r enaid mwyaf caredig o Peterborough … i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i helpu i rymuso cymuned fach a ddifrodwyd gan tswnami.”

“Ar hyn o bryd rwy’n gwirfoddoli gyda Choleg Coppicewood ac rwyf bob amser yn edrych ymlaen at gwrdd â phobl angerddol a medrus iawn sy’n gofalu am yr amgylchedd drwy reoli coetiroedd yn gynaliadwy.”

“Gwirfoddolais gydag Elusen BackUp (anaf llinyn asgwrn y cefn) a chyfarfûm â phobl anhygoel ag anafiadau i’r asgwrn cefn yn ddigon dewr i fynd i sgïo dŵr.
Nid ar gyfer y gwangalon pan na allwch nofio.”

Dydd Mercher – 17 Tachwedd 2021

Dywedwch wrthym am foment falch rydych chi wedi’i chael wrth wirfoddoli neu weithio gydag elusen. Rhannwch eich stori gan ddefnyddio #WythnosElusennauCymru a #YGorau

#YGorau

“Y foment fwyaf balch a gefais oedd pan ddeuthum yn ymddiriedolwr elusen genedlaethol, yn ymuno â’r bwrdd ochr yn ochr â pherson a oedd wedi fy mentora fel person ifanc. Y person hwnnw oedd y Parch Kenneth Leech yr oeddem yn ei alw’n Ken ac y cyfarfûm ag ef fel myfyriwr tra buom yn gweithio ar faterion ffoaduriaid, gwrth-hiliaeth a chydlyniant cymunedol. Roedd bod yn gyd-ymddiriedolwr ar ei fwrdd yn foment mor falch i mi.”

“Ymweld â’r sefydliad chwarae yn Nenmarc gydag elusen plant 20 mlynedd yn ôl wrth i ni gael ein dewis i efeillio am ein holl waith caled.”

“Yr oeddwn yn falch o fod ar y pwyllgor ac yn rhan o’r dathliad pan gyflawnodd Abertawe statws Dinas Noddfa, yr ail ddinas yn y DU i wneud hynny. Roedd hwn yn gyflawniad anhygoel i gydnabod rhwydwaith mawr o sefydliadau anhygoel sy’n gweithio gyda phobl sy’n chwilio am noddfa yn Abertawe ac yn eu cefnogi.”

“Roedd un o’r adegau gorau yr wyf wedi’i brofi drwy wirfoddoli yn cynnwys merch ifanc, tua 8, yn rhoi cwtsh i mi ar ôl tri mis o’i chefnogi. Roedd hi wedi cael ei thrin mor wael fel nad oedd hi erioed wedi cyffwrdd ag unrhyw un nac yn caniatáu iddyn nhw ei chyffwrdd.”

Dydd Iau – 18 Tachwedd 2021

Gwnewch i ni chwerthin neu wenu drwy ddweud wrthym am rywbeth doniol neu dwymgalon a ddigwyddodd i chi pan oeddech chi’n ymwneud ag elusen neu fudiad gwirfoddol. Rhannwch eich stori gan ddefnyddio #WythnosElusennauCymru a #CodiGwên

#CodiGwên

“Rwyf newydd ddechrau cerdded cŵn ar gyfer Greenacres Animal Rescue ac wedi osgoi dod â nhw i gyd adref hyd yn hyn! Rwyf hefyd wedi cwrdd â chŵn bach, cathod, alpacas, ceffylau, gwartheg, geifr a moch.”

“Wrth ymweld â Denmarc, cawsom ein tywys ar daith o amgylch y sefydliad chwarae, roedd gennym ni ddim Daneg, a gan y plant dim Saesneg, treuliasom y diwrnod yn defnyddio arwyddion ac ystumiau i gyfathrebu a llwyddo i greu a chlirio man chwarae y tu allan gan ddefnyddio hen baledau, hoelion, morthwylion a llinyn gyda phawb yn cael amser gwych ac yn aros yn ddiogel.”

“Gwnaeth defnyddiwr y gwasanaeth, a oedd yn mynd drwy adeg olaf ei fywyd, lawer o geisiadau amdanom. Roedd un yn ymddangos mor hurt a phellgyrhaeddol fel ei fod wedi ein cael ni i gyd mewn pwythau gyda chwerthin. Dywedodd ei fod yn gweld i ba raddau y byddem yn ymdrechu i wneud i’w ddymuniadau ddod yn wir. Hyd heddiw pan fyddaf yn cofio’r digwyddiad hwn rwy’n chwerthin.”

Dydd Gwener – 19 Tachwedd 2021

Dywedwch wrthym ni yn eich geiriau eich hun pam mae elusennau yn haeddu eich cymorth drwy gydol y flwyddyn. Rhannwch eich barn gan ddefnyddio #WythnosElusennauCymru a #NidWythnosYnUnig

#NidWythnosYnUnig

“Mae elusennau’n amhrisiadwy bob diwrnod o’r flwyddyn, ac maent yn gweithio y tu ôl i’r llenni yn barhaus i sicrhau bod cymorth ar gael yn eu cymunedau. Heb i wirfoddolwyr gefnogi eu gwaith byddem i gyd gymaint tlotach.”

“Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth parhaol i fywydau pawb sy’n cymryd rhan, ac yn gallu trawsnewid y ffordd rydych chi’n gweld pethau.”

“Mae’r Trydydd Sector fel y’i gelwir yn werth £84 biliwn ledled Cymru a Lloegr, swm sylweddol o arian. Mae elusennau’n amrywio o grwpiau lleol bach sy’n ddarparwyr heb eu cofrestru i sefydliadau rhyngwladol mawr. Mae elusennau’n darparu cyfoeth o brofiad, gwybodaeth a gwasanaeth i gynulleidfa eang, gan gynnig cymorth yn lleol ac yn rhyngwladol. “

“Yn Sir Gaerfyrddin rydym yn ffodus o gael trydydd sector llewyrchus gyda llawer o sefydliadau bach a mawr yn cynnig cymorth i ddinasyddion y sir, gan amrywio o glybiau cinio i gymorth gofalu. Mae llawer o bobl yn dibynnu ar weld gwirfoddolwr, cerdded i mewn i siop elusen a chael gwasanaethau sydd eu hangen fwyaf.”

“Mae elusen am oes, nid yn unig ar gyfer y Nadolig! Daw elusennau a sefydliadau cymunedol i’r blaen i ddiwallu anghenion nad yw sefydliadau eraill yn darparu ar eu cyfer. Dyna sy’n gwneud y sector yn unigryw ac yn arloesol ac yn bwysig i ni drwy gydol y flwyddyn.”

“Dylid ariannu llawer o gyllidebau craidd a pheidio â gorfod dibynnu ar garedigrwydd pobl.”

“Elusennau yw asgwrn cefn ein cenedl.”