Helpu i ddylanwadu ar ddyfodol digidol yng Nghymru

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

NEWID: Ymgyrch casglu barn torfol y Trydydd Sector

Mae’r pandemig COVID wedi trawsnewid perthynas pawb gyda’r digidol, boed hynny yn y modd yr ydych yn rhyngweithio â chydweithwyr neu’n darparu gwasanaethau.  Gyda’r digidol yn chwarae rhan eang yn y gwaith rydym yn ei wneud, mae’n hanfodol bod sefydliadau’r Trydydd Sector yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wybodaeth a chymorth i’w helpu i wneud penderfyniadau ynghylch sut y gall digidol ategu’r amrywiaeth o weithgareddau a gyflawnir.

Mae’r Trydydd Sector yng Nghymru yn cynnwys mwy na 49,000 o sefydliadau, elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau Cymunedol amrywiol. Rydym yn chwilio am 500 o sefydliadau ledled Cymru i roi gwybod inni am eich perthynas gyda thechnoleg. Bydd y wybodaeth hon yn galluogi NEWID i ddatblygu dulliau sy’n cefnogi’r Trydydd Sector yng Nghymru i ddefnyddio’r digidol i ategu, gwella a hyd yn oed trawsnewid eu gwasanaethau.

Dyma’r tro cyntaf i asesiad sylfaenol digidol gael ei gynnal yng Nghymru.


Rydym yn apelio ar y rhai sy’n gweithio yn y Trydydd Sector yng Nghymru i gymryd dau gam

  1. Llenwch yr arolwg (ar ran y Sefydliad rydych yn gweithio iddo)
  2. Rhannu’r ddolen i’r arolwg gyda chyswllt o’r Trydydd Sector sy’n
    gweithio mewn sefydliad arall


Llenwch yr arolwg