Ymgynghoriad Cyhoeddus: Cynllun gweithlu iechyd meddwl

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Ymgynghoriad: eich cyfle i lunio cynllun y gweithlu iechyd meddwl ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar y camau gweithredu allweddol a fydd yn ffurfio sylfeini’r cynllun gweithlu iechyd meddwl amlbroffesiynol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a byddem yn gwerthfawrogi eich mewnbwn.

Mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu mewn ymateb i’r camau gweithredu a amlinellir yn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ac mae’n cynnwys pob rhan o’r gweithlu sy’n chwarae rhan mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl.   Er mwyn sicrhau ein bod yn adeiladu dull cyfannol o gefnogi pobl, mae hyn yn cynnwys y gweithlu ehangach, cyffredinol yn ogystal â’r gweithlu iechyd meddwl arbenigol.

Mae ein gwaith hyd yma wedi cynnwys ymgysylltu, ymchwil a dadansoddi sylweddol, ac mae hyn wedi llywio’r camau a awgrymwyd yn y ddogfen ymgynghori.

Sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad

Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 1 Chwefror 2022 a 28 Mawrth 2022.

Isod ceir copïau o’r ddogfen ymgynghori sy’n cynnwys y camau gweithredu arfaethedig a chopi o gwestiynau’r ymgynghoriad.

 

Rydym yn croesawu cyfraniadau gan unigolion, cynrychiolwyr, grwpiau a sefydliadau, ac mae nifer o ffyrdd y gallwch gyfrannu eich barn.

Gallwch gyflwyno eich atebion drwy lenwi’r e-ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad hon. Nid oes rhaid i chi roi eich enw nac unrhyw wybodaeth a fyddai’n eich adnabod os nad ydych am wneud hynny.

Fel arall, gallwch e-bostio eich atebion i heiw.mentalhealth@wales.nhs.uk

Rydym hefyd yn cynnal nifer o weithdai ymgynghori y gallech fod eisoes wedi cael eich gwahodd iddynt. Os nad ydych wedi cofrestru ac yr hoffech ei fynychu, ewch i gweithdai-ymgynghori-cynllun-gweithlu-iechyd-meddwl

Yn ogystal, rydym yn trefnu cyfarfodydd gyda chyrff proffesiynol ac yn hapus i ymuno â chyfarfodydd eraill a drefnwyd ymlaen llaw yn ystod y cyfnod ymgynghori i drafod y camau gweithredu arfaethedig. Os yw hyn o ddiddordeb i chi, anfonwch e-bost at heiw.mentalhealth@wales.nhs.uk