Gwella gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin
Share on email

Gwahoddiad gan Marie Curie (Dyddiadau sesiynau NEWYDD)

Pan fo rhywun yn marw, mae’n bosibl na fyddwn ni’n barod am yr effeithiau emosiynol nac ymarferol. Hoffai Marie Curie gael eich help i ddatblygu’r wybodaeth a’r gefnogaeth rydyn ni’n ei gynnig ar adegau anodd fel hyn. Os ydych chi wedi cael profedigaeth, a’ch bod yn teimlo y gallech drafod eich profiad mewn grŵp bach, buasem yn ddiolchgar iawn o gael eich help.

Hoffem glywed am eich profiadau o brofedigaeth, pa help gawsoch chi, pa help yr oedd ei angen arnoch, a beth hoffech fod wedi ei wybod ar y pryd.

Cynhelir y ddau sesiwn:

  • 2yh dydd Iau 31 Mawrth, wyneb yn wyneb yn swyddfeydd Diverse Cymru yng Nghaerdydd 
  • 10.30yb dydd Gwener 1 Ebrill, ar-lein

 

Os hoffech gymryd rhan yn un o’r sesiynau hyn, cysylltwch â julie.skelton@mariecurie.org.uk os gwelwch yn dda.

Rydym yn cydnabod y byddwn oll, ar ryw adeg yn ein bywydau, yn profi colled a phrofedigaeth. Efallai y byddwch yn dymuno myfyrio ar eich profiad personol a’ch emosiynau, cyn penderfynu ai nawr yw’r amser iawn ichi ymuno â’r grŵp trafod hwn. Mae’r sesiynau wedi’u cyfyngu i 6 cyfranogwr er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn awyrgylch cyfforddus i chi gyfrannu eich safbwyntiau a’ch profiad ynddo. Cofiwch, os bydd angen arnoch, mae ein gwasanaethau cefnogaeth yma i chi. Gallwch alw ein Llinell Gymorth am ddim ar 0800 090 2309 (8yb-6yh dydd Llun i ddydd Gwener ac 11yb-5yh ar ddyddiau Sadwrn)

Gobeithiwn glywed gennych.