Mae gofod3 yn ddigwyddiad a drefnir gan CGGC, mewn cydweithrediad â’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Dyma’r digwyddiad sector gwirfoddol mwyaf o’i fath yng Nghymru.
Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwr neu’n bob un o’r rhain, mae gofod3 wedi’i ddylunio’n arbennig i bobl sy’n rhan o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.
Gydag wythnos gyfan o ddigwyddiadau ar gael, gan gynnwys amserlen gyffrous a phrysur o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, dadleuon panel a gweithdai, rydym yn sicr y bydd rhywbeth at ddant pawb.
Sefydlwyd gofod3 am y tro cyntaf yng ngwanwyn 2017 fel digwyddiad undydd blynyddol yng Nghaerdydd. Ar ôl gorfod canslo’r digwyddiad yn 2020 oherwydd pandemig Covid-19, roedden ni wrth ein bodd yn gallu dod â gofod3 yn ôl y llynedd, pan gafodd ei gynnal ar-lein am y tro cyntaf dros gyfnod o wythnos.
Beth I’w Ddisgwyl O Gofod3 2022
Mae ein rhaglen lawn yn fyw nawr! Mae gennym ni dros 70 o ddigwyddiadau wedi’u trefnu drwy gydol yr wythnos sy’n amrywio o sgyrsiau ynghylch argyfwng yr hinsawdd ac areithiau ar gyllid torfol, i drafod yr hyn y gall y sector ei wneud i wella’r argyfwng costau byw.
Mae’n mynd i fod yn wythnos llawn trafodaethau a syniadau! Gallwch chi ymuno â ‘Grow Cardiff’ i siarad am bresgripsiynu cymdeithasol neu’r ‘Eden Project’ i drafod ailgysylltu cymunedau ar ôl y pandemig.
Os nad yw’r rheini at eich dant chi, mae gennym ni amrywiaeth o sesiynau sy’n ymwneud â chyllid a chodi arian, diogelu neu seiberddiogelwch a llawer mwy, fel:
- Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- Digidol
- Dwyieithrwydd
- Effaith
- Gwirfoddoli
- Rhedeg eich mudiad
- Marchnata a chyfathrebiadau
Mae’n ddetholiad a hanner! Felly peidiwch â gwastraffu amser!
Hwn yw eich gofod unigryw chi i fyfyrio, dysgu a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
I weld y rhaglen lawn ac archebu eich lleoedd, ewch i gofod3.cymru.